- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 4(10)
Bydd yr ystyriaethau canlynol yn gymwys i fesuriadau sefydlog:
| Y math o orsaf | Amcan y mesuriad | Cynrychioldeb (a) | Meini prawf lleoli ar y raddfa facro |
|---|---|---|---|
(a) hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn agos iawn â hwy. | |||
| Ar gyfer gorsafoedd gwledig a gorsafoedd cefndir gwledig, dylid ystyried cydlynu, lle bo'n briodol, â'r gofynion monitro yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1091/94 (1) ynghylch diogelu fforestydd y Gymuned rhag llygredd atmosfferig. | |||
| Trefol | Diogelu iechyd pobl: asesu datguddiad y boblogaeth drefol i osôn h.y., lle mae'r dwysedd poblogaeth a chrynodiad osôn yn gymharol uchel ac yn nodweddiadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol. | Ychydig o km2. | I ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol megis traffig, gorsafoedd petrol etc; lleoliadau awyredig lle gellir mesur lefelau sydd wedi'u cymysgu'n dda; lleoliadau megis rhannau preswyl a rhannau masnachol mewn dinasoedd, parciau (i ffwrdd o'r coed), strydoedd mawr neu sgwarau gydag ychydig o draffig neu ddim o gwbl, mannau agored sy'n nodweddiadol o gyfleusterau addysg, chwaraeon neu hamdden. |
| Maestrefol | Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: Asesu datguddiad y boblogaeth a'r llystyfiant sydd wedi'u lleoli ar gyrion y crynhoad, lle mae'r lefelau osôn uchaf, y mae'r boblogaeth a'r llystyfiant yn debygol o fod yn agored yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol iddynt, yn digwydd. | Rhai degau o km2 | Ar ryw bellter o ardal yr allyriannau uchaf o du'r gwynt gan ddilyn cyfeiriadau'r prif wynt yn ystod amodau sy'n ffafriol ar gyfer ffurfio osôn; lle mae'r boblogaeth cnydau sensitif neu ecosystemau naturiol wedi'u lleoli ar ymylon allanol crynhoad yn cael eu datguddio i lefelau uchel o osôn; os yw'n briodol rhai gorsafoedd maestrefol o du'r gwynt i'r ardal lle mae'r allyriannau uchaf, er mwyn penderfynu lefelau cefndir rhanbarthol osôn. |
| Gwledig | Diogelu llystyfiant a iechyd pobl: Asesu datguddiad y boblogaeth, cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa is-ranbarthol. | Lefelau is-ranbarthol (ychydig o km2) | Gellir lleoli gorsafoedd mewn cytrefi bychain a/neu ardaloedd ag ecosystemau naturiol, fforestydd neu gnydau; yn gynrychioliadol ar gyfer osôn i ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol uniongyrchol megis sefydliadau diwydiannol a ffyrdd; mewn safleoedd â mannau agored, ond nid ar bennau'r mynyddoedd uchaf. |
| Cefndir gwledig | Diogelu llystyfiant ac iechyd pobl: Asesu datguddiad cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa ranbarthol yn ogystal â datguddiad y poblogaethau. | Lefelau rhanbarthol/ cenedlaethol/cyfandirol (1,000 to 10,000km2) | Gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau â dwysedd poblogaeth is, e.e. gydag ecosystemau naturiol, fforestydd, yn bell iawn o fannau trefol a diwydiannol ac i ffwrdd o allyriannau lleol; osgoi lleoliadau sy'n rhwym wrth y duedd leol i ffurfio amodau gwrth-droi sy'n agos at y ddaear, a chopâu'r mynyddoedd uchaf hefyd; nid argymhellir safleoedd arfodirol gyda chylchoedd gwynt dyddiol amlwg lleol eu natur. |
Dylid dilyn y canllawiau canlynol, cyn belled ag y bo'n ymarferol:
1. dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod y ddigyfyngiad (yn rhydd mewn cylchran o 2700 o leiaf) heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr, h.y. i ffwrdd o adeiladau, balconïau, coed ac unrhyw rwystrau eraill a hynny â mwy na dwywaith gymaint y gwahaniaeth rhwng uchder y rhwystr ac uchder y samplwr.
2. yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5m (y parth anadlu) a 4m uwchlaw'r ddaear. Mae safleoedd uwch yn bosibl hefyd ar gyfer gorsafoedd trefol o dan rai amgylchiadau ac mewn mannau coediog.
3. dylai profiedydd y fewnfa fod y bell i ffwrdd o unrhyw ffynonellau megis ffwrneisi a chyrn simneiau hylosgi a mwy na 10m o'r ffordd agosaf, a'r pellter yn cynyddu fel ffwythiant dwysedd traffig.
4. dylai allfa wacáu'r samplwr fod wedi'i leoli er mwyn osgoi ailgylchu nwyon llosg i fewnfa'r samplwr.
Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:
(a)ffynonellau sy'n ymyrryd;
(b)diogelwch;
(c)hygyrchedd;
(ch)a oes pŵer trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;
(d)gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd;
(dd)diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr;
(e)a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu ar gyfer gwahanol lygrynnau; ac
(f)gofynion cynllunio.
Dylai gweithdrefnau dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r amgylchoedd a map manwl. Dylid adolygu safleoedd yn rheolaidd gan ailadrodd y gwaith dogfennu i sicrhau bod y meini prawf dewis yn cael eu bodloni o hyd.
Mae hyn yn gofyn am sgrinio a dehongli'r data monitro'n briodol yng nghyd-destun y prosesau metereolegol a ffotocemegol sy'n effeithio ar grynodiadau osôn sy'n cael eu mesur yn y safle priodol.
OJ L 125, 18.5.1994, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: