Search Legislation

Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Medi 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “aer amgylchynol” (“ambient air”) yw aer y tu allan yn y troposffer, heb gynnwys gweithleoedd;

  • ystyr “amcan hirdymor” (“long-term objective”) yw'r lefel a ragnodir fel y cyfryw o dan reoliad 3(2);

  • ystyr “asesu” (“assessment”) yw unrhyw ddull a ddefnyddir i fesur, cyfrifo, darogan neu amcangyfrif lefel osôn neu ragsylweddion osôn yn yr aer amgylchynol;

  • mae i “bwrdd iechyd lleol” yr ystyr a roddir i “local health board” yn adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1);

  • ystyr “crynhoad” (“agglomeration”) yw parth â chrynodiad poblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion neu, os yw crynodiad y boblogaeth yn 250,000 o drigolion neu lai, dwysedd poblogaeth am bob km2 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod yna gyfiawnhad dros yr angen i asesu neu reoli'r aer amgylchynol ar ei chyfer;

  • ystyr “cyfansoddion organig anweddol” (“volatile organic compounds”) neu “VOCs” (“VOCs”) yw pob cyfansodd organig o ffynonellau anthropogenig a biogenig, ac eithrio methan, sy'n gallu cynhyrchu ocsidau ffotocemegol drwy adweithio ag ocsidau nitrogen yng ngolau'r haul;

  • mae i “cyfnod cyfartaleddu perthnasol” (“relevant averaging period”) yr ystyr a ragnodir yn rheoliad 7(5);

  • mae “y cyhoedd” (“the public”) yn cynnwys sefydliadau gofal iechyd a chyrff sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd ac y mae ganddynt fuddiant mewn ansawdd aer amgylchynol;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae i “gorsaf cefndir gwledig” (“rural background station”) yr ystyr a roddir iddo gan Ran I o Atodlen 2;

  • ystyr “gwerth targed” (“target value”) yw'r lefel a ragnodir o dan reoliad 3(1);

  • ystyr “lefel” (“level”) yw crynodiad osôn neu ragsylweddion osôn yn yr aer amgylchynol;

  • ystyr “mesuriadau sefydlog” (“fixed measurement”) yw mesuriadau a gymerir ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a nifer y mesuriadau yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau a welir;

  • ystyr “parth” (“zone”) yw rhan o Gymru sydd wedi'i dynodi at ddibenion y Rheoliadau hyn ac a ddangosir ar fap a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 10 Mehefin 2003, ac a adneuwyd yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol, Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

  • ystyr “rhagsylweddion osôn” (“ozone precursor substances”) yw sylweddau sy'n cyfrannu at ffurfio osôn lefel-ddaear, gan gynnwys y rhai a restrir yn Atodlen 4;

  • ystyr “trothwy gwybodaeth” (“information threshold”) yw'r lefel a ragnodir fel y cyfryw o dan reoliad 6; ac

  • ystyr “trothwy rhybuddio” (“alert threshold”) yw'r lefel a ragnodir fel y cyfryw o dan reoliad 6.

Gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor

3.—(1Mae'r gwerthoedd targed ar gyfer lefelau osôn wedi'u nodi yn Rhan II o Atodlen 1.

(2Mae'r amcanion hirdymor ar gyfer lefelau osôn wedi'u nodi yn rhan III o Atodlen 1.

(3Mae'r diffiniadau a'r darpariaethau yn Rhan I o Atodlen 1 yn gymwys i Rannau II a III o'r Atodlen honno.

Asesu lefelau osôn a rhagsylweddion osôn

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau osôn a rhagsylweddion osôn yn cael eu hasesu ym mhob parth yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog parhaus mewn unrhyw barth lle, o fewn unrhyw un o'r pum mlynedd blaenorol, y mae lefelau osôn wedi bod yn uwch nag amcan hirdymor.

(3Er mwyn penderfynu a yw lefelau osôn, yn ystod unrhyw un o'r pum mlynedd blaenorol, wedi bod yn uwch nag amcan hirdymor mewn parth nad yw data o fesuriadau sefydlog parhaus ar gael ar ei gyfer am y cyfan o'r cyfnod hwnnw, caniateir i ymgyrchoedd mesur byrhoedlog, ar adegau ac mewn lleoliadau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf, gael eu cyfuno â chanlyniadau o restrau allyriannau a gwaith modelu.

(4Pan nad yw lefelau osôn mewn parth wedi bod yn uwch na'r amcanion hirdymor mewn unrhyw un o'r pum mlynedd blaenorol, caniateir defnyddio cyfuniad o fesuriadau sefydlog parhaus, gwaith modelu a mesuriadau dangosol yn y parth hwnnw.

(5 Ar gyfer pob parth y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus fod yn unol â Rhan I o Atodlen 3.

(6Ar gyfer pob parth y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid bod mesuriadau nitrogen deuocsid—

(a)yn cael eu gwneud mewn o leiaf 50 y cant o'r pwyntiau samplu osôn sy'n ofynnol o dan Ran I o Atodlen 3;

(b)yn rhai parhaus, ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig, lle caniateir defnyddio dulliau mesur eraill.

(7Caniateir lleihau nifer y pwyntiau samplu sefydlog sy'n ofynnol o dan baragraff (5) ar yr amod —

(a)yr ychwanegir gwybodaeth o waith modelu, mesuriadau dangosol neu'r ddau ddull hwn at yr wybodaeth o bwyntiau samplu sefydlog;

(b)bod y ffynonellau gwybodaeth ychwanegol y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a) yn darparu lefel wybodaeth ddigonol ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed, a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio;

(c)bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad yn ddigon ar gyfer darganfod y lefel osôn yn unol â'r amcanion ansawdd data a bennir yn Rhan I o Atodlen 5 ac yn arwain at ganlyniadau asesu fel a bennir yn Rhan II o'r Atodlen honno;

(ch)bod cyfanswm nifer y pwyntiau samplu ym mhob parth yn un pwynt samplu o leiaf fesul dwy filiwn o drigolion, neu un pwynt samplu fesul 50,000 km2, p'un bynnag sy'n cynhyrchu'r nifer mwyaf o bwyntiau samplu;

(d)bod pob parth yn cynnwys o leiaf un pwynt samplu; ac

(dd)bod nitrogen deuocsid yn cael ei fesur ym mhob un o'r pwyntiau samplu sy'n weddill ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig.

(8Ar gyfer pob parth y mae paragraff (7) yn gymwys iddo, rhaid cymryd y ffynonellau gwybodaeth ychwanegol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (7)(a) i ystyriaeth wrth asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed.

(9Ar gyfer pob parth y mae paragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog fod yn unol â Rhan II o Atodlen 3.

(10Mae Atodlen 2 yn cael effaith at ddibenion penderfynu lleoliadau pwyntiau samplu ar gyfer mesur osôn.

(11Rhaid defnyddio'r dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi osôn a chalibradu offerynnau osôn sydd wedi'u nodi yn Atodlen 6 oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn mabwysiadu dulliau eraill y gellir dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfatebol yn ei farn ef.

(12Ar gyfer rhagsylweddion osôn —

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod o leiaf un orsaf fesur i ddarparu data am lefelau rhagsylweddion osôn a restrir yn Atodlen 4 wedi'i gosod a'i gweithredu yng Nghymru; a

(b)wrth ddewis nifer a lleoliad y gorsafoedd lle mae lefelau rhagsylweddion osôn i'w mesur, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd i ystyriaeth yr amcanion, y dulliau a'r argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen honno.

(13Ar gyfer osôn ac ocsidau nitrogen rhaid i fesuriadau cyfaint gael eu safon ar dymheredd o 293K a phwysedd o 101.3kPa.

Rhaglenni a mesurau i fynd i'r afael â lefelau osôn

5.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o'r parthau lle mae —

(a)lefelau osôn, fel y'u hasesir yn unol â rheoliad 4, yn uwch na'r gwerthoedd targed;

(b)lefelau osôn, fel y'u hasesir yn unol â rheoliad 4, yn uwch na'r amcanion hirdymor ond yn hafal i'r gwerthoedd targed neu'n is na hwy;

(c)lefelau osôn yn bodloni'r amcanion hirdymor.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu, ar gyfer pob parth sydd wedi'i restru o dan baragraff (1)(a), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd targed erbyn y dyddiad a bennir yn Rhan II o Atodlen 1.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn na fyddai modd cyrraedd y gwerthoedd targed drwy fesurau cymesur.

(4Wrth baratoi a gweithredu cynllun neu raglen o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y cynllun neu'r rhaglen yn cael ei integreiddio, lle bo'n briodol, ag unrhyw gynllun neu raglen sydd wedi'i pharatoi ar gyfer y parth hwnnw o dan reoliad 10 o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002(2).

(5Rhaid i gynllun neu raglen a baratowyd o dan baragraff (2) gynnwys, o leiaf, wybodaeth sy'n cyfateb i'r wybodaeth sydd wedi'i rhestru yn Atodlen 7 i Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002, (fel petai cyfeiriadau yn yr Atodlen honno at “llygredd” yn gyfeiriadau at lefelau osôn sy'n uwch na'r lefel darged), a rhaid trefnu iddynt fod ar gael i'r cyhoedd.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1)(b) fesurau y mae'n barnu eu bod yn gost-effeithiol, gan anelu at sicrhau'r amcanion hirdymor.

(7Rhaid i'r mesurau a baratoir ac a weithredir o dan baragraff (6) fod o leiaf yn gyson ag unrhyw gynlluniau neu raglenni a baratowyd ac a weithredwyd o dan baragraff (2).

(8Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gyfer unrhyw barth y mae paragraff (1)(c) yn gymwys iddo —

(a)sicrhau, i'r graddau y mae ffactorau sy'n cynnwys natur drawsffiniol llygredd osôn ac amodau meteorolegol yn caniatáu hynny, fod lefelau osôn yn cael eu cadw islaw amcanion hirdymor;

(b)cadw, drwy fesurau cymesur, yr ansawdd aer amgylchynol orau y mae'n barnu ei bod yn gydnaws â datblygu cynaliadwy a lefel uchel o ddiogelwch ar gyfer yr amgylchedd ac iechyd pobl.

Y trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio

6.  Mae'r trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn wedi'u nodi yn Rhan I o Atodlen 7.

Gwybodaeth gyhoeddus

7.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gwybodaeth gyfoes ar lefelau osôn yn cael ei rhoi ar gael i'r cyhoedd fel mater o drefn yn unol â darpariaethau'r Rheoliad hwn.

(2Rhaid diweddaru'r wybodaeth am lefelau osôn ym mharagraff (1) —

(a)os yw'n briodol ac yn ymarferol, bob awr;

(b)ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

(3Rhaid bod gwybodaeth sy'n cael ei rhoi ar gael o dan baragraff (1) yn cynnwys —

(a)nodyn am bob digwyddiad pan aeth lefel osôn, o'i hasesu drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod cyfartaleddu perthnasol, yn uwch na'r canlynol —

(i)yr amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd;

(ii)y trothwy gwybodaeth;

(iii)y trothwy rhybuddio;

ac asesiad byr o effaith y gormodiannau hynny ar iechyd pobl;

(b)adroddiadau blynyddol cynhwysfawr; ac

(c)gwybodaeth amserol am ormodiannau gwirioneddol neu ddaroganedig uwchlaw'r trothwy rhybuddio.

(4Rhaid i'r adroddiadau blynyddol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(b) ddangos, o leiaf —

(a)ar gyfer iechyd pobl, unrhyw ormodiannau uwchlaw'r gwerth targed, yr amcan hirdymor, y trothwy gwybodaeth neu'r trothwy rhybuddio ar gyfer y cyfnod cyfartaleddu perthnasol;

(b)ar gyfer llystyfiant, unrhyw ormodiannau uwchlaw'r gwerth targed neu'r amcan hirdymor; ac

(c)os yw'n briodol, gwerthusiad byr o effaith y gormodiannau hynny.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r “cyfnod cyfartaleddu perthnasol” —

(a)mewn perthynas â gwerthoedd targed, wedi'i nodi yn Rhan II o Atodlen 1;

(b)mewn perthynas â'r amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd, wedi'i nodi yn Rhan III o Atodlen 1; ac

(c)mewn perthynas â'r trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio, wedi'i nodi yn Rhan I o Atodlen 7.

(6Yn ychwanegol at ei darparu i'r cyhoedd, rhaid darparu gwybodaeth y trefnwyd iddi fod ar gael o dan baragraff (3)(c) i unrhyw fwrdd iechyd lleol y mae gormodiant o'r fath yn effeithio ar ei ardal neu y gallai gormodiant o'r fath effeithio ar ei ardal.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn yn y modd y mae'n barnu ei fod yn briodol, o ystyried natur yr wybodaeth honno a'r adroddiadau hynny.

(8Os eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu i'r cyhoedd yr wybodaeth a bennir yn Rhan II o Atodlen 7.

(9Os daroganir gormodiant uwchlaw'r trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle bo'n ymarferol, ddarparu i'r cyhoedd yr wybodaeth a bennir yn Rhan II o Atodlen 7.

(10Rhaid i wybodaeth y trefnir iddi fod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn fod yn glir, yn ddealladwy ac yn hygyrch.

Cynlluniau gweithredu tymor byr

8.—(1Os oes unrhyw risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn mewn parth, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu a oes posibilrwydd sylweddol o leihau'r risg honno neu leihau hyd neu ddifrifoldeb unrhyw ormodiant o'r fath petai hynny'n digwydd ac os felly, rhaid iddo lunio cynllun gweithredu, gan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau lleol penodol, gan nodi'r mesurau sydd i'w cymryd, yn y tymor byr, i ddileu neu leihau'r risg honno neu leihau hyd neu ddifrifoldeb y gormodiant, yn ôl fel y digwydd.

(2Wrth wneud y penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd i ystyriaeth yr amodau daearyddol, meteorolegol ac economaidd cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Genedlaethol drefnu bod y canlynol ar gael i'r cyhoedd —

(a)canlyniadau unrhyw benderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1);

(b)unrhyw gynlluniau gweithredu y mae'n eu llunio o dan baragraff (1); ac

(c)gwybodaeth am roi'r cynlluniau gweithredu hynny ar waith.

Llygredd trawsffiniol

9.—(1Os yw lefel osôn mewn unrhyw barth yng Nghymru yn uwch na gwerth targed neu amcan hirdymor, a bod y gormodiant hynny wedi'i achosi i raddau helaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, gan allyriannau rhagsylweddion mewn un o Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol.

(2Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn llunio cynllun neu raglen ar y cyd, neu gynllun gweithredu tymor byr ar y cyd, gydag un o Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, gan gydymffurfio â dyletswydd a osodwyd gan y Gymuned, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu yn ôl yr hyn sydd o fewn ei bwerau i roi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno ar waith yng Nghymru.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “dyletswydd a osodwyd gan y Gymuned” yw dyletswydd a osodwyd ar y Deyrnas Unedig gan Erthygl 8(1) neu (2) o Gyfarwyddeb 2002/3/EC o'r Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n ymwneud ag osôn yn yr aer amgylchynol(3).

Gofynion ynglŷn â gwybodaeth

10.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud yn siwr fod yr wybodaeth a bennir yn Rhan I o Atodlen 8 yn cael ei sicrhau a'i chydgasglu.

(2Mae'r meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol a bennir yn Rhan II o Atodlen 8 yn gymwys i'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1).

Dirymu Rheoliadau Monitro Osôn a Gwybodaeth am Osôn 1994

11.  Dirymir drwy hyn Reoliadau Monitro Osôn a Gwybodaeth am Osôn 1994(4), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources