Search Legislation

Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2003 Rhif 1847 (Cy.197)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

16 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i “y Gweinidog” gan adran 5(1), (2) a (3) ac adran 44 o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949(1), ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol, mewn perthynas â Chymru, neu, mewn perthynas â Lloegr, cyngor sir, dosbarth neu fwrdeistref;

  • mae gan “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i'r term “electronic communication” gan adran 15(1) Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Arfordir 1949;

  • ystyr “hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir” (“notice of a proposal to carry out coast protection work”) yw hysbysiad y mae'n rhaid i awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf.

Ffurf hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir

3.  Rhaid i hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir fod yn y ffurf ddwyieithog a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd yn sylweddol yn cael yr un effaith.

Cyflwyno hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir

4.  Rhaid i gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, yn ogystal â chael ei gyflwyno i'r cyrff a nodir yn adran 5(1) o'r Ddeddf, hefyd gael ei gyflwyno i:

(a)unrhyw awdurdod lleol y mae'n debygol y bydd ei ardal yn cael ei effeithio gan y gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)unrhyw awdurdod harbwr, awdurdod mordwyo, awdurdod gwarchodaeth, neu bwyllgor pysgodfeydd lleol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal lle bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud neu y bydd fel arall yn debyg o gael ei effeithio gan y gwaith hwnnw;

(c)Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

(ch)os yw'r gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn debygol o effeithio ar unrhyw ran o Loegr neu o'r môr sy'n gyfagos at Loegr, “English Nature”, Comisiwn Adeiladau a Henebion Lloegr a'r “Countryside Agency”; a

(d)unrhyw berson arall sydd â buddiant mewn unrhyw dir y bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud arno, neu sy'n debygol o gael ei effeithio gan y gwaith, oni bai nad yw'r awdurdod diogelu'r arfordir yn gwybod pwy ydyw nac yn medru yn rhesymol gadarnhau pwy ydyw.

Hysbysiad o wrthwynebiad

5.—(1Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) o'r Ddeddf i gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir y mae hysbysiad ohono wedi'i gyhoeddi o dan adran 5(1) o'r Ddeddf fod yn ysgrifenedig a rhaid i gopïau ohono gael eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod diogelu'r arfordir o fewn y cyfnod hwnnw a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan adran 5(1), sef cyfnod na all fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) ddatgan seiliau'r gwrthwynebiad.

(3Rhaid i'r copi o'r hysbysiad o wrthwynebiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) gael ei gyfeirio at Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(4Rhaid i'r copi o'r hysbysiad o wrthwynebiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno i'r awdurdod diogelu'r arfordir gael ei gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod hwnnw yn ei brif swyddfa.

Defnyddio cyfathrebiad electronig

6.—(1Caiff unrhyw ddogfen y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, ei chyflwyno trwy gyfathrebiad electronig, yn ogystal â thrwy unrhyw fodd arall a awdurdodir gan y Ddeddf a dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, mewn perthynas â dogfen y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, fel cyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i:

(a)unrhyw gopi o hysbysiad o wrthwynebiad o dan adran 5(3) o'r Ddeddf; a

(b)unrhwy gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, os yw'r person y mae'n rhaid cyflwyno'r hysbysiad iddo yn cytuno i dderbyn cyflwyno'r ddogfen honno trwy gyfathrebiad electronig.

Diddymu

7.  Diddymir, trwy hyn, Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950(4) mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Rheoliad 3

ATODLENFFURF AR HYSBYSIAD GWAITH DIOGELU'R ARFORDIR ARFAETHEDIG

Deddf Diogelu'r Arfordir 1949Hysbysiad o Gynnig i Wneud Gwaith Diogelu'r Arfordir

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â Chymru, ynglŷn â hysbysiadau o gynlluniau i wneud gwaith diogelu'r arfordir a gyhoeddir gan awdurdodau diogelu'r arfordir o dan adran 5(1) o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (“y Ddeddf”), a hysbysiadau o wrthwynebiad i'r fath waith a gyflwynir o dan adran 5(3) o'r Ddeddf. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950.

Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn rhagnodi ffurf yr hysbysiad y mae'n rhaid i'r awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, y mae adran 5(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'w gyhoeddi a'i gyflwyno i Asiantaeth yr Amgylchedd ac i unrhyw fwrdd draenio mewnol perthnasol, hefyd gael ei gyflwyno i rai cyrff statudol ac i bartïon y mae eu buddiannau yn debyg o gael eu heffeithio gan y gwaith arfaethedig.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynnwys a chyflwyno hysbysiadau o wrthwynebiad i gynllun o dan adran 5(3).

Mae rheoliad 6 yn awdurdodi cyflwyno hysbysiadau trwy gyfathrebiad electronig.

Mae rheoliad 7 yn diddymu, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950 (sydd eisoes wedi eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Lloegr) 2002).

(1)

1949 p.74. Diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Dŵ r 1989 (p.15), adran 190(1) ac Atodlen 25, paragraff 1, a chan Reoliadau Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (Diwygiadau Canlyniadol 1996 (O.S. 1996/593), rheoliad 2 ac Atodlen 1.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau “y Gweinidog” o dan adran 5 o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.

(4)

O.S. 1950/124, sydd eisoes wedi'i ddiddymu, mewn perthynas â Lloegr, gan O.S. 2002/278.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources