- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu'r awdurdod bwyd, pa un bynnag y bo, fod unrhyw fwyd yn torri rheoliad 3(1)(a)(i) neu (b)(i) a'i fod wedi'i fewnforio i Gymru, gall swyddog o'r fath, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson yr ymddengys i'r swyddog mai ef yw'r sawl sy'n mewnforio, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol fod —
(a)y bwyd yn cael ei ddychwelyd i wlad y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd o fewn y cyfryw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad: neu
(b)(pan fyddai dychwelyd y bwyd, ym marn y swyddog hwnnw, yn golygu risg ddifrifol i iechyd pobl) y bwyd yn cael ei ddistrywio o fewn y cyfryw gyfnod rhesymol a nodir felly.
(2) Mewn unrhyw achos lle caiff apêl o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (3) ei dwyn mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan —
(a)yr hawl i apelio i lys ynadon; a
(b)y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o'r fath.
(3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam o ganlyniad i benderfyniad y swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon, a chaiff y llys benderfynu pa un a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.
(4) Y cyfnod ar gyfer dwyn y cyfryw apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) fydd 6 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad heb gyfrif y Sadwrn ,y Sul a Gwyliau Cyhoeddus ac, at ddibenion y paragraff hwn, tybir bod gwneud cwyn yn gyfystyr â dwyn apêl.
(5) Y weithdrefn ar gyfer dwyn apêl gerbron llys ynadon o dan baragraff (3) fydd trwy wneud cwyn am hysbysiad, a bydd Deddf y Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd llys yn caniatáu apêl a gaiff ei dwyn o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw ddigolledu perchennog y bwyd dan sylw am unrhyw leihad yn ei werth o ganlyniad i'r cam a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynghylch hawl y perchennog i gael ei ddigolledu neu ynghylch maint y swm a fydd yn daladwy o dan baragraff (6) yn cael ei benderfynu trwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson a fydd yn torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i gyfnod yng ngharchar na fydd yn fwy na thri mis.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: