Dull marcio neu labelu7

1

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd

a

yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu

b

yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,

os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —

i

ar y pecyn;

ii

ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu

iii

ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,

ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.

2

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —

a

ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;

b

ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu

c

mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.

3

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.

4

Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.