Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2003, 1 Medi 2003 ac 1 Tachwedd 2003, y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I i III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen —

  • Mae adrannau 60 i 64 yn ymwneud â phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) i gyfarwyddo AALl.

  • Mae adran 60 yn diwygio adran 497A o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996) fel bod modd i gyfarwyddyd gyfeirio at holl swyddogaethau AALl; fel bod modd gwneud cyfarwyddyd pellach pan ddaw un blaenorol i ben os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, pe na bai'n gwneud cyfarwyddyd pellach, na fyddai'r AALl yn cyflawni'r swyddogaeth o dan sylw i safon ddigonol; fel bod modd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo AALl i gymryd camau mwy penodol; ac yn y fath fodd ag i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo bod swyddogaeth i'w harfer ganddo neu gan ei enwebai. Mae adran 61 yn mewnosod adran 497AA newydd o Ddeddf 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl gydweithredu â'r Cynulliad Cenedlaethol, neu ei enwebai, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried gwneud cyfarwyddyd. Mae adran 62 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 497B o Ddeddf 1996. Mae adrannau 63 a 64 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau penodol i gyfarwyddo AALl i gael cyngor oddi wrth berson penodedig.

  • Mae adran 178(1) a (4) yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000 i estyn ystod arolygiadau ardal at bersonau sydd dros 14 oed.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen —

  • Mae adran 27 yn galluogi corff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau er budd y gymuned. Mae adran 28 yn gosod terfynau ar arfer y pŵer hwn. Mae adran 19(6) ac Atodlen 1, paragraff 3(1), (3) i (8), ac adran 40 ac Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 yn gwneud darpariaeth sy'n dilyn fel canlyniad i gyflwyno'r pŵer hwn.

  • Mae adran 29 yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, adran 39 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Roedd adran 39(1) o Ddeddf 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefn cwyno yn unol â rheoliadau, ond ni wnaethpwyd rheoliadau o dan yr adran honno. Mae adran 29(1) a (2) nawr yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gael gweithdrefn cwyno fel y'i nodir yn yr adran ac yn unol â chyfarwyddyd. Mae adran 29(3) a (4) yn rhoi pŵer i gorff llywodraethu i'w gwneud yn ofynnol i ddisgyblion fynd i unrhyw le y tu allan i'r ysgol at ddibenion y cwricwlwm. Mae adran 29(5) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu a phennaeth gydymffurfio â chyfarwyddiadau AALl mewn perthynas â iechyd a diogelwch.

  • Mae adrannau 136 i 140 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â chymwysterau athrawon a phenaethiaid addysg bellach, mewn perthynas â chyrsiau sy'n arwain at gymwysterau o'r fath ac mewn perthynas â darparu cyrsiau addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adrannau 181 i 185 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu lwfansau i bersonau cymwys dros oedran ysgol gorfodol sy'n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant nad yw'n addysg uwch.

  • Mae adran 197 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl a chyrff llywodraethu wneud cytundebau partneriaeth, sy'n nodi sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag ysgol.

  • Mae adran 199 ac Atodlen 19 yn diwygio darpariaethau Deddf 1996 ynglŷn â chludiant. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i AALl baratoi datganiad polisi sy'n nodi eu trefniadau ar gyfer darparu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 neu gefnogaeth ar gyfer cludiant o'r fath.

  • Mae adran 202 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â chofnodion addysgol sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adran 203 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â defnyddio offer a deunyddiau peryglus mewn sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adran 206 ac Atodlen 20 yn diwygio Deddf 1996 a Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i estyn y darpariaethau ynglŷn â niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol i ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt, ysgolion annibynnol, safleoedd sy'n cael eu darparu gan AALl ar gyfer hyfforddiant mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â chwaraeon, gweithgareddau adloniadol neu weithgareddau awyr agored ac i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen —

  • Mae adran 43 yn mewnosod adran 47A newydd o Ddeddf 1998, sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl sefydlu fforymau ysgol. Bydd y rhain yn cynrychioli cyrff llywodraethu a phenaethiaid ac yn cynghori'r AALl ar faterion sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources