- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2); ac
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.
3.—(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae adran 21 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae adran 28(3)(3) i fod i gael effaith fel petai'r geiriau “section 38(2) of the School Standards and Framework Act 1998” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “section 21(2)”.
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae'r diffiniad o “maintained school” yn adran 39 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 27, 29(1) a pharagraff 3 o Atodlen 1(4) (i'r graddau y mae mewn grym) at “maintained school” i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir “maintained school” yn adran 20(7) o Ddeddf 1998.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau ym mhgaragraff 3 o'r Atodlen honno(5) (i'r graddau y mae mewn grym) at “governing body” i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a ymgorfforwyd o dan adran 36(1) o Ddeddf 1998.
4.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglŷn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999(6)) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1) mae'r geiriau “Subject to paragraph (3),” yn cael eu dileu.
(3) Yn erthygl 2(2)(a) mae'r geiriau “section 512(3) and (4)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(1A) and (1B)”.
(4) Yn erthygl 2(2)(b) mae'r geiriau “section 512ZB(1)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(3)(a)”.
(5) Mae erthygl 2(3) yn cael ei dirymu.
(6) Mae erthygl 5 sydd wedi'i Rhif o'n anghywir yn cael ei Rhif o'n erthygl 4.
(7) Yn erthygl 4(1) a (2) (fel y mae wedi'i hailrifo) mae'r geiriau “section 512ZA(2)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(2)(b)” ym mhob man y maent yn ymddangos.
5.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglŷn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999(7) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1) mae'r geiriau “Subject to paragraph (3)” yn cael eu dileu.
(3) Yn erthygl 2(2)(a) mae'r geiriau “section 512(3) and (4)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(1A) and (1B)”.
(4) Yn erthygl 2(2)(b) mae'r geiriau “section 512ZB(1)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(3)(a)”.
(5) Mae erthygl 2(3) yn cael ei dirymu.
(6) Yn erthygl 4(1) a (2) mae'r geiriau “section 512ZA(2)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “section 512(2)(b)” ym mhob man y maent yn ymddangos.
6.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999(8) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “Gorchymyn adran 512A” yn rheoliad 1(3) mae'r geiriau “adran 512A(2)(b)” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “adran 512(2)(b)”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002(9) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 18(2)(d) mae'r gair “Academi” yn cael ei roi yn lle'r geiriau “Academi Dinas”.
8.—(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(10)) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(b)(i) mae'r gair “academi” yn cael ei roi yn lle'r geiriau “academi dinas”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso addasiadau trosiannol i Ddeddf Addysg 2002 mewn cysylltiad â'r ffaith bod darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dyfodiad i rym adrannau 27 a 28 sy'n galluogi cyrff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol ac adran 29 sy'n ymwneud â swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu. Nes y bydd adran 21 yn dod i rym, mae adran 28 i fod i gael effaith fel petai'n cyfeirio at y ddyletswydd sydd wedi'i chynnwys yn adran 38(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998), sef dyletswydd corff llywodraethu i hyrwyddo safonau uchel o ran cyrhaeddiad addysgol yn yr ysgol. Nes y bydd y diffiniad o “maintained school” yn adran 39 (sy'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir) yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau yn adrannau 27, 29(1) ac Atodlen 1 at ysgol a gynhelir i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at “maintained school” fel y'i diffinnir yn Neddf 1998, a hwnnw'n ddiffiniad nad yw'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir. Nes y bydd paragraff 1 o Atodlen 1 yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau at “governing body” ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan Ddeddf 1998.
Mae Rheoliadau 4 i 6 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglŷn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999, Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglŷn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999 a Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn canlyn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2003 adran 201 sy'n gwneud darpariaeth ynglŷn â swyddogaethau AALl ynghylch darparu prydau bwyd ysgolion.
Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002, yn y fath fodd ag i gyfeirio at “academïau” yn hytrach nag “academïau dinas”. Mae hyn yn canlyn dyfodiad i rym adran 67 ar 26 Gorffennaf 2002, a honno'n adran sy'n darparu bod academïau dinas i'w hadnabod fel academïau. Dim ond yn Lloegr y caniateir i academïau gael eu sefydlu.
Mae adran 28 i ddod i rym ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003, O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).
Mae adrannau 27 a 29 ac Atodlen 1 (yn rhannol) i ddod i rym ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).
Mae paragraff 3 o Atodlen 1 i ddod i rym yn rhannol ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: