- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(1) yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn erthygl 1, rhodder “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.
(3) Yn erthygl 3—
(a)ar ôl paragraff (2)(b)(xxi) ychwaneger y canlynol—
“(xxii)symudiad anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd ar safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw wedi ymadael â'r cyfrwng cludo tra bu ar y safle.”;
(b)ym mharagraff (3)(e)(iv) rhodder y gair “diweddaraf” yn lle “cynharaf”;
(c)yn lle paragraff (3)(ng) rhodder y paragraff canlynol—
“(ng)anifail o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig ar ôl cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall;”.
(4) Yn lle erthygl 8 rhodder yr erthygl ganlynol—
8. Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
8A.—(1) Rhaid i anifail a symudir o dan drwydded benodol—
(a)gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a
(b)bod y drwydded gydag ef drwy gydol y symudiad.
(2) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded benodol gael ei gadw ar wahân, drwy gydol y symudiad, i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno.
(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded, a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, oni bai i'r drwydded ddarparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—
(a)sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho;
(b)yn achos lladd-dy, roi copi i'r llawfeddyg milfeddygol swyddogol; ac
(c)cadw'r drwydded am chwe mis a'i dangos i arolygydd os gofynnir amdani.
8B. Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol, ac mae'r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n symud yr anifeiliaid fod â dogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—
(a)sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;
(b)llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, ei lofnodi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; a
(c)cadw copi o'r ddogfen wedi ei llenwi am chwe mis.
8C. Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.”.
O.S. 2002/2304 (Cy.229), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2480 (Cy.243).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: