Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1677 (Cy.180)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

2 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

14 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 75(1) 76(1), 77(4), 78(6), 79(1) a (2) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1), ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno ac o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ynglyn â diogelwch bwyd(2), a chan ei fod wedi ei ddynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno a grybwyllwyd ddiwethaf (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1970 p. 40. Yn adran 66(1) ceir diffiniadau'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd diffiniad “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad (EC) 178/2002 mae cyfraith bwyd, “food law”, yn ymestyn i borthiant a gynhyrchir ar gyfer, neu a roddir i, anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.