Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 167 (Cy.27)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003

Wedi'i wneud

30 Ionawr 2003

Yn dod i rym

31 Ionawr 2003

Enw, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(2).

Diwygio erthygl 1

3.  Yn erthygl 1(2) o'r prif Orchymyn rhoddir y geiriau “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.

Diwygio erthygl 2

4.  Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mewnosodir y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn y wyddor—

ystyr “Marc” (“Mark”) yw un o'r canlynol: Marc F, Marc R, Marc S, Marc Tarddiad, neu Farc X;

ystyr “Marc F” (“F Mark”) yw Marc F yn unol ag erthygl 6(1) a (4);

ystyr “Marc R” (“R Mark”) yw Marc R yn unol ag erthygl 6(1) a (6);

ystyr “Marc S” (“S Mark”) yw Marc S yn unol ag erthygl 6(1) a (7);

ystyr “Marc Tarddiad” (“Origin Mark”) yw Marc Tarddiad yn unol ag erthygl 6(1) a (5);

mae i “Rhif adnabod unigol” (“individual identification number”) yr ystyr a roddir yn erthygl 6(9) a (10);.

Mewnosod erthygl 2A

5.  Ar ôl erthygl 2, mewnosodir yr erthygl canlynol—

Dodi neu gofnodi Rhif au adnabod unigol

2A.  Yn y Gorchymyn hwn nid yw cyfeiriad at ofyniad i ddodi neu gofnodi Rhif adnabod unigol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Rhif adnabod unigol gael ei ddodi na'i gofnodi os yw'r Rhif hwnnw wedi ei ddodi neu ei gofnodi eisoes fel rhan o Farc..

Diwygio erthygl 4

6.—(1Caiff erthygl 4 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.

(2Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—

(iv)os bydd dafad yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;.

(3Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—

(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol y ddafad a symudwyd..

Diwygio erthygl 5

7.—(1Caiff erthygl 5 o'r prif Orchymyn ei diwygio yn unol â'r erthygl hon.

(2Yn lle paragraff (2), is-baragraff (c)(iv) rhoddir y canlynol—

(iv)os bydd gafr yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;.

(3Ym mharagraff (2), is-baragraff (f) o'r testun Saesneg yn unig, rhoddir y geiriau “to or from a show” yn lle “to a show”.

(4Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y canlynol—

(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan is-baragraffau (2)(c)(ii) a (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr afr a symudwyd..

Diwygio erthygl 6

8.—(1Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

(2Yn lle paragraff (4) rhoddir y canlynol—

(4) Marc F—

(a)pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)y llythrennau “UK”;

(bb)marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a

(cc)y llythyren “F”; neu

(ii)os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)y llythrennau “UK”;

(bb)marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;

(cc)Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(chch)y llythyren “F”; neu

(b)pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; a

(bb)y llythyren “F”; neu

(ii)os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)marc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd;

(bb)Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(cc)y llythyren “F”;.

(3Yn lle paragraff (5) rhoddir y canlynol—

(5) Marc Tarddiad—

(a)pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)y llythrennau “UK”;

(bb)marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu

(ii)os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)y llythrennau “UK”;

(bb)marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a

(cc)Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu

(b)pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003, marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; neu

(ii)os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)marc diadell neu farc gyr daliad geni'r anifail; a

(bb)Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;.

(4Yn lle paragraff (6) rhoddir y canlynol—

(6) Marc R—

(a)pan fydd wedi ei farcio ar dag clust, yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)y llythrennau “UK”;

(bb)marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a

(cc)y llythyren “R”; neu

(ii)os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)y llythrennau “UK”;

(bb)marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

(cc)Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(chch)y llythyren “R”; neu

(b)pan fydd wedi ei farcio â thatŵ , yw marc wedi ei ffurfio o'r elfennau canlynol yn y drefn ganlynol—

(i)os yw wedi ei ddodi cyn 1 Chwefror 2003—

(aa)marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly; a

(bb)y llythyren “R”; neu

(ii)os yw wedi ei ddodi ar 1 Chwefror 2003, neu ar ôl hynny—

(aa)marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

(bb)Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; a

(cc)y llythyren “R”;.

Diwygio erthygl 7

9.  Yn lle paragraff (2) o erthygl 7 o'r prif Orchymyn, rhoddir y canlynol—

(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail—

(a)a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi ei farcio yn unol ag erthygl 8(4) neu (5) neu erthgyl 15 o Orchymyn Defaid a Geifr 2000; neu

(b)a oedd wedi ei farcio â Marc Tarddiad ar 31 Ionawr 2003 neu cyn hynny..

Diwygio erthygl 9

10.  Yn erthygl 9(2)(dd) o'r prif Orchymyn, dilëir y geiriau “ac wedi'i farcio â Rhif adnabod unigol”.

Diwygio erthygl 12

11.—(1Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

(2Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(ii), yn lle “Reoliadau 2000; neu” rhoddir “Reoliadau 2000;”.

(3Ym mharagraff (2), is-baragraff (a)(iii), mewnosodir “neu” ar ôl “Marc R”.

(4Yn lle paragraff (2), is-baragraff (a)(iv) rhoddir y canlynol—

(iv)os yw anifail yn dwyn uchafswm y marciau a ganiateir o dan erthygl 10, y Rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r Rhif adnabod unigol;.

(5Ar ôl paragraff (2), mewnosodir y paragraff canlynol—

(2A) Nid yw'r gofyniad i gofnodi Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R o dan baragraffau (2)(a)(ii) neu (iii) uchod yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail a symudwyd..

Diwygio erthygl 13

12.—(1Diwygir erthygl 13 o'r prif Orchymyn yn unol â'r erthygl hon.

(2Yn lle paragraff (2), is-baragraffau (b) ac (c) rhoddir y canlynol—

(b)os Marc Tarddiad oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai—

(i)tag â'r llythrennau “UK” wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw; neu

(ii)tatŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw;

(c)os Marc F oedd y Marc gwreiddiol, dodi naill ai—

(i)tag â'r llythrennau “UK” wedi eu dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F; neu

(ii)tatŵ â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw wedi ei ddilyn â Rhif adnabod unigol yr anifail hwnnw wedi ei ddilyn â'r llythyren F;

(ch)os Marc R oedd y Marc gwreiddiol, dodi Marc R newydd; neu

(d)os na ellir gwneud y gweithredoedd yn is-baragraffau (a), (b), (c), dodi Marc R..

(3Ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol—

(2A) Rhaid i Farc a ddodwyd o dan is-baragraffau (2)(b), (c) neu (ch) gael ei groesgyfeirio â'r Marc gwreiddiol yn y cofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan erthygl 4 neu 5..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

John Marek

Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2003

Whitty

Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

30 Ionawr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.27)).

Dyma'r prif newidiadau a wneir i'r Gorchymyn—

(a)diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Chwefror 2003 i 1 Ebrill 2003) (erthygl 3);

(b)diwygio diffiniadau o Farciau F, R a Marciau Tarddiad i gynnwys Rhif adnabod unigol ar gyfer y ddafad neu'r afr, ond dim ond ar gyfer defaid neu eifr na ddodwyd un o'r marciau hynny arnynt eisoes cyn i'r Gorchymyn hwn ddod yn effeithiol ar 31 Ionawr 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi i'r Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Ministers” (yn ôl y diffiniad yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau eu bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers” a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).