Search Legislation

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2003 Rhif 148 (Cy.18)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

29 Ionawr 2003

Yn dod i rym

10 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BA, is-adrannau (1), (2) a (3) a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), ac Atodlen 5B, paragraffau 1 a 2 i'r Ddeddf honno, sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 10 Chwefror 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi'i sefydlu ar ei chyfer;

ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

mae i “dyddiad gweithredu” (“operational date”) yr un ystyr ag a briodolwyd iddo ym mharagraff 1(2) o Atodlen 5B i Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 10 Chwefror 2003; ac;

ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol fel a nodwyd yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Sefydlu Byrddau Iechyd Lleol

3.  Sefydlir drwy hyn, gydag effaith o'r dyddiad sefydlu, y Byrddau Iechyd Lleol a restrwyd yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a gaiff eu galw yn ôl yr enwau a briodolir iddynt yn yr Atodlen honNo.

Natur Byrddau Iechyd Lleol

4.  Sefydlir bob Bwrdd Iechyd Lleol at y dibenion a nodir yn adran 16BA (1) o Ddeddf 1977.

Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol

5.—(1Bydd pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yr un â'r brif ardal llywodraeth leol a bennir iddi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd iddi'r un ffiniau.

(2Os caiff y brif ardal llywodareth leol a bennir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod ei hamrywio, caiff ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ei amrywio yn unol â hynny.

(3Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â chreu prif ardal llywodraeth leol newydd, diddymu prif ardal llywodraeth leol sydd eisoes yn bodoli neu uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfirfyddu Byrddau Iechyd Lleol

6.—(1Dyddiad gweithredol bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 1 Ebrill 2003.

(2Dyddiad cyfrifyddu bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredu

7.  Rhwng ei ddyddiad sefydlu a'i ddyddiad gweithredu, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol y swyddogaethau canlynol—

(a)ymrwymo i gontractau GIG;

(b)ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac

(c)gwneud unrhywbeth arall y mae'n rhesymol angenrheidiol er mwyn ei alluogi i weithredu'n foddhaol a hynny gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003

Erthygl 3 Erthygl 5

YR ATODLENEnwau Byrddau Iechyd Lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer

Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3Y brif ardal llywodraeth leol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei sefydlu ar ei chyfer

1.  Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn

Ynys Môn

2.  Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd

Gwynedd(5)

3.  Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd

Caerdydd

4.  Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion

Ceredigion(6)

5.  Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin

Sir Gaerfyrddin

6.  Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

7.  Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint

Sir y Fflint

8.  Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy

Sir Fynwy

9.  Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro

Sir Benfro

10.  Bwrdd Iechyd Lleol Powys

Powys

11.  Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe

Abertawe

12.  Bwrdd Iechyd Lleol Conwy

Conwy(7)

13.  Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent

Blaenau Gwent

14.  Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr

Pen-y-bont ar Ogwr

15.  Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili

Caerffili

16.  Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful

Merthyr Tudful

17.  Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd/Port Talbot

Castell-nedd a Phort Talbot

18.  Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd

Casnewydd

19.  Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Tâf

Rhondda Cynon Tâf

20.  Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen

Tor-faen

21.  Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg

Bro Morgannwg

22.  Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam

Wrecsam

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum Awdurdod Iechyd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003 a chreu Byrddau Iechyd Lleol y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirprwyo iddynt swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a drosglwyddwyd iddo yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), a swyddogaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd.

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Byrddau Iechyd Lleol fel y darperir ar gyfer hynny yn adran 16BA o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p. 49) ac Atodlen 5B iddi ac mae'n nodi'r ardaloedd y maent wedi'u sefydlu ar eu cyfer. Y bwriad yw y bydd gan Fyrddau Iechyd Lleol yr un ffiniau ag ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau interim Byrddau Iechyd Lleol rhwng dyddiadau eu sefydlu a'u dyddiadau gweithredol ac yn nodi eu dyddiadau cyfrifyddu.

Mae Awdurdod Iechyd Cymru yn cael eu diddymu drwy Orchymyn sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Mewn perthynas ag aelodaeth a chyfansoddiad Byrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149, (Cy.19)).

Mewn perthynas â'r swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, (Cy.20)).

(1)

1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddiben y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlenni 4 a 5 iddi.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo of Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

(3)

1972 p.70. Amnewidiwyd Rhannau I a II o Atodlen 4 gan Ddeddf Lywodraeth Leol (Cymru) 1994 (1994 p.19).

(5)

Yr enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yw “Caernarfonshire and Merionethshire”.

(6)

Yr enw a ddefnydir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodrateh Leol 1972 yw “Cardiganshire”.

(7)

Yr enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yw “Aberconwy and Colwyn”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources