- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 10 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi'i sefydlu ar ei chyfer;
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
mae i “dyddiad gweithredu” (“operational date”) yr un ystyr ag a briodolwyd iddo ym mharagraff 1(2) o Atodlen 5B i Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 10 Chwefror 2003; ac;
ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol fel a nodwyd yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1).
3. Sefydlir drwy hyn, gydag effaith o'r dyddiad sefydlu, y Byrddau Iechyd Lleol a restrwyd yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a gaiff eu galw yn ôl yr enwau a briodolir iddynt yn yr Atodlen honNo.
4. Sefydlir bob Bwrdd Iechyd Lleol at y dibenion a nodir yn adran 16BA (1) o Ddeddf 1977.
5.—(1) Bydd pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yr un â'r brif ardal llywodraeth leol a bennir iddi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd iddi'r un ffiniau.
(2) Os caiff y brif ardal llywodareth leol a bennir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod ei hamrywio, caiff ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ei amrywio yn unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â chreu prif ardal llywodraeth leol newydd, diddymu prif ardal llywodraeth leol sydd eisoes yn bodoli neu uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.
6.—(1) Dyddiad gweithredol bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 1 Ebrill 2003.
(2) Dyddiad cyfrifyddu bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 31 Mawrth.
7. Rhwng ei ddyddiad sefydlu a'i ddyddiad gweithredu, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol y swyddogaethau canlynol—
(a)ymrwymo i gontractau GIG;
(b)ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c)gwneud unrhywbeth arall y mae'n rhesymol angenrheidiol er mwyn ei alluogi i weithredu'n foddhaol a hynny gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: