- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'i wneud
4 Mehefin 2003
Yn dod i rym
5 Mehefin 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 a daw i rym ar 5 Mehefin 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn —
(a)mae'r diffiniadau o anifeiliaid a dofednod yn is-adrannau (1) a (4) o adran 87 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob mamal ac eithrio dyn ac i gynnwys pob aderyn; a
(b)mae'r diffiniadau o glefyd yn is-adrannau (1) a (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid a dofednod.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn —
mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys aderyn;
ystyr “cyfarpar” (“equipment”) yw unrhyw gyfarpar a gludir gan gyfrwng cludo i'w ddefnyddio gydag anifeiliaid; ac
mae “cyfrwng cludo” (“means of transport”) yn cynnwys ei ffitiadau, ei rannau datodadwy ac unrhyw gynwysyddion (p'un a ydynt yn ddatodadwy ai peidio) a ddefnyddir gydag ef.
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.
3.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo —
(a)anifeiliaid carnog;
(b)colomennod rasio; ac
(c)yr anifeiliaid canlynol, os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sy'n gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.
(3) Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl gorffen y daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio i gludo unrhyw anifail onid yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.
(5) Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail yn y cyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, onid yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
4.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo —
(a)pob mamal heblaw anifeiliaid carnog;
(b)pob aderyn nas cynhwysir yn erthygl 3; ac
(c)anifeiliaid ac adar a bennir yn erthygl 3 yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos —
(a)cludiant nad yw o natur fasnachol;
(b)anifail unigol sy'n mynd gyda pherson sy'n gyfrifol am yr anifail yn ystod y daith; neu
(c)cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchenogion ar daith breifat.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu beri neu ganiatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau —
(a)eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, ei ddiheintio; a
(b)bod anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
5. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol diheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.
6.—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo —
(a)yn cael eu dinistrio;
(b)yn cael eu trin fel bod y perygl o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu
(c)yn cael eu gwaredu fel nad oes modd i anifeiliaid fynd atynt.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999(2).
7.—(1) Os yw arolygydd wedi ei fodloni bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar naill ai —
(a)heb ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu
(b)ag angen ei lanhau a'i ddiheintio oherwydd y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd,
caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.
(2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol —
(a)gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(b)gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(c)ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu
(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gael gwared ar yr holl borthiant y mae anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion a deunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag Atodlen 2 onid yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio.
(4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3 neu 4, yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hyn a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw'r arolygydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.
(5) Onid yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
8. Yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
9. Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Y Llywydd
4 Mehefin 2003
Elliot Morley
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
2 Mehefin 2003
Erthyglau 3(2) a 4(1)
1. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys os yw'r daith wedi ei gwneud o fewn un fenter ffermio sydd o dan un berchnogaeth.
2. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chludo —
(a)ceffylau a ddefnyddir at ddibenion hamdden neu chwaraeon yn unig; neu
(b)ceffylau a gedwir mewn stablau a drwyddedir gan Glwb y Jocis yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd rasio, neu yn ôl ac ymlaen i fan lle mae ceffylau sy'n cael eu cadw yn y stablau hynny yn cael eu hyfforddi i rasio.
3.—(1) Os yw cyfrwng cludo yn cael ei ddefnyddio'n unig o fewn un diwrnod i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt, erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys, ac eithrio cyn taith gyntaf y diwrnod ac ar ôl y daith olaf.
(2) Yn y paragraff hwn mae cludo anifeiliaid yn digwydd o fewn un diwrnod hyd yn oed —
(a)os yw'r daith olaf yn dechrau ond nad yw'n gorffen cyn canol nos ar y diwrnod dan sylw; a
(b)yn achos anifail carnog sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad gyda'r hwyr, neu un sy'n parhau gyda'r hwyr, ar y diwrnod dan sylw, os yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag yw'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn canol nos ai peidio.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy farchnad.
4. Os defnyddir cyfrwng cludo ar gyfer cludo anifeiliaid o safle tarddiad i sioe da byw ac yn ôl ac nad yw paragraff 3 yn gymwys, yna erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â'r cyfrwng cludo pan yw ar safle'r sioe da byw ar yr amod —
(a)bod y cyfrwng cludo yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe;
(b)nad yw'r cyfrwng cludo yn ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;
(c)mai'r anifeiliaid a gludwyd i'r sioe yw'r unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo pan yw yn y sioe;
(ch)nad yw'r cyfrwng cludo ar y daith yn ôl ond yn cludo'r anifeiliaid a gludasai i'r sioe; a
(d)bod y cyfrwng cludo yn dychwelyd o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.
5. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu ddŵ r iddynt, neu at ryw nod dros dro arall, ac wedyn eu hail-lwytho ynddo.
Erthyglau 3(3), (4) a (5), 4(4), 7(3) a (4)
1. Rhaid gwneud yr holl lanhau a diheintio er mwyn lleihau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, y perygl o drosglwyddo'r clefyd.
2.—(1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd —
(a)rhaid glanhau'r canlynol p'un a ydynt wedi eu baeddu ai peidio: holl wynebau mewnol y rhannau hynny o'r cyfrwng cludo y cludwyd yr anifeiliaid ynddynt, a phob rhan o'r cyfrwng cludo y mae'n bosibl bod yr anifeiliaid wedi cael mynd ati yn ystod y daith; a
(b)rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi eu baeddu —
(i)unrhyw ffitiadau datodadwy nas defnyddiwyd yn ystod y daith;
(ii)unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo; a
(iii)unrhyw gyfarpar.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.
(3) At ddibenion erthygl 3, rhaid i bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei glanhau gael ei diheintio hefyd.
3. Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â dŵ r, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.
4. Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(4) yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003 ('Gorchymyn 2003') (O.S. 2003/482 (Cy.68)). Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys i Gymru, yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17) a weithredwyd gynt gan baragraff 26 o Atodlen 1 i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 (O.S. 1997/1480). Mae'n gweithredu hefyd Erthygl 12.1(a), ail gilosodiad Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC am broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned (cydgyfnerthwyd y Gyfarwyddeb hon yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC, OJ Rhif L109, 25.4.97, t.1).
Dyma'r prif newidiadau ers Gorchymyn 2003 a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn —
symleiddio'r gofynion a gynhwysir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar gyfer glanhau a diheintio cyfryngau cludo a ddefnyddir yn unig o fewn un diwrnod i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt; a
diwygio paragraffau 3 a 4 o Atodlen 1 i ddarparu y gall yr esemptiadau i'r gofynion glanhau a diheintio yn erthygl 3, a gynhwysir yn y naill neu'r llall o'r paragraffau hynny, fod yn gymwys i gyfrwng cludo a ddefnyddir i gludo anifeiliaid i sioe da byw ac oddi yno, yn ôl yr amgylchiadau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, ar ôl cludo unrhyw anifeiliaid carnog, a ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl, fod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a'r cyfarpar a gludir ganddo yn unol ag Atodlen 2 cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ond beth bynnag o fewn dim mwy na 24 awr (erthygl 3(3)). Cyn taith yn cludo unrhyw rai o'r anifeiliaid hyn, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo fod wedi ei lanhau a'i ddi-heintio ers iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf i gludo unrhyw rai o'r anifeiliaid hyn (erthygl 3(4)). Mae hefyd yn pennu, hyd yn oed os yw hynny wedi ei wneud, bod rhaid glanhau a diheintio'r rhannau sydd wedi eu baeddu eto cyn i'r anifeiliaid hynny gael eu cludo os yw'r cyfrwng cludo wedi ei faeddu fel y byddai'n peri perygl o drosglwyddo clefyd (erthygl 3(5)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol (erthygl 3(6)).
Mae erthygl 4 yn gymwys i bob anifail ac aderyn arall (ond nid yn gymwys i deithiau nad ydynt yn fasnachol neu i gludo anifeiliaid unigol neu anifeiliaid anwes) ac i'r amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1 (lle y byddai erthygl 3 yn gymwys fel arall). Mae'r amgylchiadau hyn yn ymwneud â theithiau o fewn un fenter ffermio, cludo ceffylau penodol, teithiau rhwng yr un dau bwynt a chyfrwng cludo mewn sioe da byw. Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid sy'n gymwys gael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, wedi ei ddiheintio, a bod anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) a charthion yn cael eu symud ymaith o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo modd.
Mae erthygl 6 yn pennu ym mha ffordd y mae'n rhaid cael gwared â'r deunydd o'r cyfrwng cludo.
O dan erthygl 7, mae gan arolygydd bŵ er, o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.
Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 8).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gellir cosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Ministers” (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers” a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).
O.S. 1999/646 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1735 (Cy.122).
O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: