- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Rhaid i berson sydd â buddiant mewn unrhyw dir mynediad ac sy'n dymuno gwneud cais am gyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad o dan adran 24(1) o'r Ddeddf (rheoli tir) neu adran 25(3) o'r Ddeddf (osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd) wneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys:
(a)enw, cyfeiriad a chod post y ceisydd;
(b)os yw'r cais yn cael ei wneud drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;
(c)datganiad o natur buddiant y ceisydd yn y tir (gan gynnwys, os yw'r buddiant hwnnw yn cynnwys hawl comin neu hawl debyg dros dir, disgrifiad o hyd a lled yr hawl honno);
(ch)datganiad ynghylch a yw'r cais yn cael ei wneud o dan adran 24(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, o dan adran 25(3) o'r Ddeddf;
(d)disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;
(dd)manylion am natur a diben y gwaharddiad neu'r cyfyngiad;
(e)y cyfnod penodedig y mae'r ceisydd yn cynnig bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ynddo; ac
(f)y rhesymau, os oes rhai, pam na ellir cyflawni'r dibenion y gwneir cais am y cyfarwyddyd ar eu cyfer drwy arfer hawl y ceisydd, os oes un, i wahardd neu gyfyngu mynediad i'r tir o dan adran 22 o'r Ddeddf.
(3) Rhaid i geisydd, o fewn unrhyw gyfnod rhesymol y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn amdano, ddarparu unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'r cais y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdani drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: