- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
4.—(1) Rhaid i berchennog tir mynediad sy'n dymuno cyfyngu hawl mynediad i ddarn o'r tir mynediad hwnnw o dan adran 23 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar gŵn yn ôl disgresiwn y perchennog) gydymffurfio, er mwyn gwneud hynny, â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r perchennog roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad, y mae'n rhaid iddo gynnwys:
(a)enw, cyfeiriad a chod post y perchennog;
(b)os yw'r perchennog yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;
(c)datganiad o natur buddiant y perchennog yn y tir;
(ch)disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir hwnnw a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;
(d)datganiad a yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, adran 23(2) o'r Ddeddf; ac
(dd)y dyddiadau y mae'r gwahoddiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r perchennog yn dymuno i'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y bydd y cyfyngiad ar waith ar y diwrnod hwnnw.
(3) Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf 28 diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.
(4) Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(2) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod gwaith cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r perchennog gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) (yn ôl fel y digwydd) ac yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r perchennog neu, os rhoddodd y perchennog hysbysiad drwy asiant, yr asiant hwnnw.
(6) Os yw paragraff (5) yn gymwys, bydd y cyfyngiad yn dod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5) i'r perchennog neu asiant y perchennog, yn ôl fel y digwydd.
(7) Cyn gynted â phosibl ar ôl dod i benderfyniad yn unol â pharagraff (5), rhaid i awdurdod perthnasol, oni bai ei fod eisoes wedi gwneud hynny drwy'r cyfathrebiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), gadarnhau'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig i'r perchennog.
(8) Caiff perchennog sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) ond nad yw bellach yn dymuno i'r cyfyngiad y mae'n berthnasol iddo ddod yn weithredol (neu, os yw'r cyfyngiad eisoes wedi dod yn weithredol, nad yw'n dymuno iddo bara) roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol o'r effaith honno ac—
(a)os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol cyn i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, ni fydd effaith wedyn i'r hysbysiad gwreiddiol;
(b)os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol ar ôl i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, mae effaith y cyfyngiad yn dod i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: