Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Erthygl 3(3)

ATODLEN 2Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur

Cyrraedd marchnad etc.

1.  Symud anifail i farchnad, canolfan gasglu, canolfan ffrwythloni artiffisial, sioe neu arddangosfa.

Symud mochyn o dan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

2.  Symud mochyn fel y cyfeirir ato yn erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.

Symud mochyn at ddibenion magu

3.—(1Mochyn sy'n cyrraedd y safle a ddarparwyd ar gyfer magu (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ar yr amod—

(a)cyn ei symud, naill ai na fuasai cyfnod segur ar y safle ymadael, neu fel arall y cawsai'r mochyn ei ynysu am 20 diwrnod cyn ei symud a hynny mewn cyfleuster wedi'i gymeradwyo at y diben gan arolygydd milfeddygol;

(b)y'i hynysir tra bydd ar y safle magu (neu am 20 diwrnod, pa gyfnod bynnag yw'r byrraf) mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol;

(c)bod unrhyw fochyn a osodir yn y cyfleuster ynysu gyda'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle at ddibenion magu, wedi bod ar y safle magu am o leiaf 20 diwrnod cyn cael ei osod yn y cyfleuster hwnnw;

(ch)bod unrhyw fochyn arall a osodir yn y cyfleuster ynysu ar y safle magu gyda'r un y daethpwyd ag ef i'r safle hwnnw yn cael ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl i'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle gyrraedd, neu am 20 diwrnod ar ôl ei ynysu gyda'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle, pa un bynnag yw'r diweddaraf; ac

(d)bod y sawl sy'n derbyn y mochyn magu yn llofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio'r mochyn i fagu ar y safle hwnnw a'i fod yn ei anfon y datganiad at yr awdurdod lleol yn ddi-oed.

(2Symud mochyn (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) of Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer magu, ar yr amod —

(a)y'i hynysir oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl y dyddiad y'i dychwelir, a

(b)bod meddiannydd y safle y dychwelodd y mochyn ohono ar ôl ei ddefnyddio at ddibenion magu wedi anfon y datganiad sy'n ofynnol ym mharagraff 3(d) uchod at yr awdurdod lleol.

Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa

4.  Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i'r safle y traddodwyd hwy ohoni i'r sioe neu'r arddangosfa ar yr amod yr ynysir yr anifeiliaid am chwe diwrnod (neu, yn achos moch, am 20 diwrnod) ar ôl eu dychwelyd i safle wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol.

Canolfannau ffrwythloni artiffisial

5.  Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.

6.  Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.

7.  Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod—

(a)y'u hynysir oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd; a

(b)eu bod wedi cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall tra oeddent yn y ganolfan ffrwythloni artiffisial.

Anifeiliaid a fewnforir

8.—(1Anifail a fewnforir yn cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.

(2Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.

Symud o fewn grŵ p meddiannaeth unigol

9.  Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn grŵ p meddiannaeth unigol.

Cyfryngau cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill

10.  Symud anifail y deuir ag ef i'r safle mewn cerbyd sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod na ddadlwythir yr anifail yn y safle hwnnw.

Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol, a.y.y.b.

11.  Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources