- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003. Mae'n newid darpariaethau'r Gorchymyn hwnnw fel a ganlyn:
Mae'n creu gofyniad newydd, sef rhaid marcio pob dafad a phob gafr sy'n cael ei symud i sioe neu arddangosfa â Rhif unigol (erthygl 4);
Mae'n caniatáu symud, o dan amodau penodedig, moch, gwartheg, defaid a geifr i sioeau ac arddangosfeydd o safleoedd sydd o dan gyfnod segur (paragraffau 11 a 12 o Atodlen 1) ac mae'n darparu na fydd dychweliad yr anifeiliaid hyn o sioe neu arddangosfa yn sbarduno cyfnod segur ar y safle o dan amodau penodol (paragraff 4 o Atodlen 2).
Fel o'r blaen, mae'r Gorchymyn yn darparu na chaiff gwartheg, ceirw, geifr, moch a defaid eu symud heb drwydded, ac yn darparu na chaiff yr anifeiliaid hyn (ac eithrio ceirw) eu symud o safle os symudwyd gwartheg, geifr neu ddefaid i'r safle hwnnw yn ystod y 6 diwrnod blaenorol (y “cyfnod segur”: a sbardunir gan symudiad yr anifeiliaid hyn), neu os yw moch wedi cael eu symud yn ystod y 20 diwrnod blaenorol (y “cyfnod segur” a sbardunir gan symudiad moch). Mae hefyd yn darparu ar gyfer eithriadau i'r gofynion hyn (erthygl 3 ac Atodlenni 1 a 2).
Mae Atodlen 1 yn rhestru'r symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur ac mae Atodlen 2 yn rhestru'r symudiadau ymlaen i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur.
Mae'n rheoli symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi wrthynt (erthygl 5) ac yn darparu ar gyfer cysylltu setiau o safleoedd â'i gilydd yn grwpiau meddiannaeth unigol (erthygl 6).
Mae'n gwneud darpariaethau ar gyfer trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau, ac yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno hysbysiadau sy'n atal safleoedd neu bersonau unigol rhag gweithredu o dan drwydded gyffredinol (erthygl 7 i 13).
Mae'n darparu ar gyfer diheintio cerbydau (erthygl 14).
Mae'n darparu ar gyfer newid meddiannaeth safle yr effeithir arno gan y Gorchymyn (erthygl 15).
Yr awdurdod lleol sy'n ei orfodi neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 16).
Mae methu cydymffurfio â'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Gorchymyn yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Awst 2003
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: