- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Ionawr 2003
Yn dod i rym
1 Mawrth 2003
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (2), 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1), ac adran 10(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(4)) yn cael eu diwygio fel a ganlyn:—
(a)Yn rheoliad 3(2) ar ôl y diffiniad o “cwmni” mewnosodwch—
“ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;”.
(b) Yn Rhan I o Atodlen 3—
(i)mewnosodwch ar ôl paragraff 1 (1)(b)—
“(ba)os yw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cyngor ei fod yn athro neu athrawes gymwysedig, gan fod y Cyngor wedi'i fodloni ar 1 Medi 2003 neu wedyn ei fod yn berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 6 neu 8 ac, os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 8 fod y datganiad a gyflwynwyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey yn gywir; neu”;
(ii)ym mharagraff 1(1) ar ôl y geiriau “o dan baragraff (b)” mewnosodwch y geiriau “neu (ba)”, ac ar ôl y geiriau “o'r dyddiad y bydd y Cynulliad” mewnosodwch y geiriau “neu'r Cyngor”;
(iii)mewnosodwch ar ôl paragraff 1(2)—
“(2A) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), gall y Cyngor ddarparu i berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 6 neu 8 fod yn athro neu athrawes gymwysedig o ddyddiad nad yw'n fwy na blwyddyn cyn yr hysbysiad i'r graddau bod hynny'n briodol gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos.”; a
(iv)ym mharagraff 1(4) yn lle'r geiriau “ni fydd y Cynulliad yn darparu” rhowch y geiriau “ni fydd naill ai'r Cynulliad na'r Cyngor yn darparu”.
3. Mae Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000(5) yn cael eu diwygio trwy roi yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” yn rheoliad 2 y diffiniad canlynol—
mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag sydd i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 er mwyn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i benderfynu a yw categorïau penodol o bersonau yn athrawon cymwysedig. Mae'r rhain yn cynnwys person sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon; person sydd yn cael ei adnabod fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon; person sydd wedi ei gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban; athro neu athrawes ysgol o Ardal Economaidd Ewrop; a pherson sydd wedi ei argymell ar gyfer statws athro neu athrawes gymwysedig gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” yn Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000.
1988 p.40. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672).
O.S 1999/2817 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2938(Cy.279).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: