Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Ffurf a chynnwys offerynnau cyflwyno

3.  Rhaid i offeryn cyflwyno:

(a)bod yn ysgrifenedig, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg neu, os yw'n cael ei baratoi ar ffurf ddwyieithog, yn y naill iaith a'r llall;

(b)datgan ei fod wedi'i wneud o dan adran 16(1) o'r Ddeddf a datgan mai ei effaith, pan ddaw i rym yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn, fydd cyflwyno'r tir y mae'n ymwneud ag ef at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf;

(c)dynodi'r tir sydd i'w gyflwyno drwy gyfeirio at blan neu fap sydd wedi'i atodi i'r offeryn ac:

(i)sydd ar raddfa heb fod yn llai nag 1:10,000;

(ii)y mae ffiniau'r tir sydd i'w gyflwyno wedi'u marcio'n glir arno; ac

(iii)y mae safle digon o linellau Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans neu nodweddion daearyddol y gellir eu hadnabod wedi'u dangos arno i'w gwneud yn bosibl i leoliad cyffredinol y tir gael ei ganfod;

(ch)datgan enw, cyfeiriad a chod post pob person sy'n gwneud y cyflwyniad;

(d)datgan natur y buddiant y mae gan bob person sy'n gwneud y cyflwyniad yn y tir sy'n cael ei gyflwyno, ac, os yw unrhyw fuddiant o'r fath yn dymor blynyddoedd absoliwt cyfreithiol, y dyddiad y mae'r tymor hwnnw i fod i ddod i ben;

(dd)os nad yw buddiant unrhyw berson sy'n gwneud y cyflwyniad yn ymwneud â'r cyfan o'r tir sy'n cael ei gyflwyno, dynodi hyd a lled y tir y mae buddiant y person hwnnw yn ymwneud ag ef drwy gyfeirio at ffiniau sydd wedi'u marcio'n glir ar y plan neu'r map sydd wedi'i atodi i'r offeryn yn unol â pharagraff (c);

(e)datgan enw, cyfeiriad a chod post pob person sy'n cydsynio ag ef, ac eithrio'r rhai sy'n gwneud y cyflwyniad;

(f)datgan natur y buddiant sydd gan bob person sy'n cydsynio â'r cyflwyniad yn y tir sy'n cael ei gyflwyno ac, os nad yw'r buddiant hwnnw yn ymwneud â'r cyfan o'r tir sy'n cael ei gyflwyno, dynodi hyd a lled y tir y mae'r buddiant hwnnw yn ymwneud ag ef naill ai drwy ddisgrifiad mewn geiriau neu drwy gyfeirio at y plan neu'r map sydd wedi'i atodi i'r offeryn;

(ff)cynnwys datganiad gan neu ar ran y personau sy'n gwneud y cyflwyniad nad oes, hyd eithaf gwybodaeth a chred y personau hynny, unrhyw bersonau, heblaw'r rhai sydd wedi'u nodi yn unol â pharagraff (ch), y mae'n ofynnol iddynt o dan adran 16(1) o'r Ddeddf ymuno â'r cyflwyniad nac unrhyw bersonau, heblaw'r rhai a nodwyd yn unol â pharagraffau (ch) ac (e) y mae'n ofynnol iddynt o dan adran 16(2) o'r Ddeddf naill ai ymuno â'r cyflwyniad neu gydsynio ag ef;

(g)datgan, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir sydd i'w gyflwyno, a yw'r personau sy'n gwneud y cyflwyniad yn bwriadu y dylai unrhyw un o'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer yr hawl mynediad a nodwyd ym mharagraff 1, 4 neu 5 o Atodlen 2 i'r Ddeddf gael eu dileu neu eu llacio ac, os felly:

(i)dynodi, drwy gyfeirio at rif y paragraff ac, yn achos paragraff 1, lythyren yr is-baragraff, p'un o'r cyfyngiadau sydd i'w dileu neu, yn ôl fel y digwydd, i'w llacio;

(ii)yn achos cyfyngiad sydd i'w lacio, i ba raddau y dylid ei lacio;

(iii)a yw dileu neu llacio'r cyfyngiad, mewn perthynas â phob cyfyngiad sydd i'w ddileu neu i'w lacio, i fod yn gymwys i'r cyfan o'r tir sydd i'w gyflwyno ac, os nad ydyw, i ba ran neu rannau o'r tir mae i fod yn gymwys iddo; a

(iv)dynodi, drwy gyfeirio at ffiniau sydd wedi'u marcio'n glir ar y plan neu'r map a atodwyd i'r offeryn yn unol â pharagraff (c), neu blan neu fap ar wahân heb fod ar raddfa lai ac sydd wedi'i atodi i'r offeryn at ddibenion y paragraff hwn, y rhan neu'r rhannau o'r tir y mae dileu neu lacio'r cyfyngiadau i fod yn gymwys iddynt;

(ng)cynnwys datganiad o gydsyniad â thelerau'r offeryn a hwnnw wedi'i lofnodi gan bob un o'r personau a nodwyd yn unol â pharagraff (e) neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i lofnodi ar eu rhan; ac

(h)cynnwys, yn union o flaen y man lle y mae i'w lofnodi pan fydd wedi'i weithredu, ddatganiad fod darpariaethau rheoliad 4(4) wedi'u bodloni.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources