- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1) neu (2), wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn —
(a)anfon y cnau pistasio Iranaidd y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)(petai'r anfon hwnnw yn ei farn ef yn creu peryglon difrifol i iechyd pobl), distrywio'r cnau pistasio Iranaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan —
(a)bod hawl apelio i lys ynadon; ac
(b)y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gŵyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei wneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) fydd yn gymwys i'r achos.
(6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: