xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

2.—(1Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(1) yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) —

(a)ym mharagraff (2)(b) hepgorir “ac”;

(b)ym mharagraff (2)(c) yn lle “.” rhoddir “;”;

(c)ar ôl paragraff (2)(c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol —

(ch)os yw person ac eithrio defnyddiwr gwasanaeth neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am gopi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth —

(i)trefnu bod copi o'r fersiwn gyfredol o'r arweiniad ar gael i'w archwilio gan y person hwnnw yn y cartref gofal; neu

(ii)darparu copi o'r fath i'r person hwnnw..

(3Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliad canlynol —

Gwybodaeth am ffioedd

5A.(1) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch—

(a)y ffioedd sy'n daladwy gan y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef am ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth unrhyw un o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau canlynol —

(i)llety, gan gynnwys darparu bwyd;

(ii)nyrsio;

(iii)gofal personol;

(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac

(c)y dull ar gyfer talu'r ffioedd a'r person y mae'r ffioedd yn daladwy ganddo.

(2) Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o leiaf fis ymlaen llaw am—

(a)unrhyw gynnydd yn y ffioedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a);

(b)unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) —

(a)os yw Awdurdod Iechyd neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu'r person cofrestredig ei fod wedi penderfynu gwneud taliad i'r person cofrestredig ar gyfer nyrsio a ddarparwyd (neu sydd i'w ddarparu) i ddefnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(b)os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.

(5) Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad —

(a)os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gyda'r cartref gofal ar gyfer darparu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth; ac

(b)os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal..

(4Yn rheoliad 39(2)(d)yn lle “cartref plant” rhoddir “cartref gofal”.

(5Yn y fersiwn Saesneg o reoliad 39(4) yn lle “children’s home” rhoddir “care home”.