xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
2 Ebrill 2003
Yn dod i rym
7 Ebrill 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(3) yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) —
(a)ym mharagraff (2)(b) hepgorir “ac”;
(b)ym mharagraff (2)(c) yn lle “.” rhoddir “;”;
(c)ar ôl paragraff (2)(c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol —
“(ch)os yw person ac eithrio defnyddiwr gwasanaeth neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am gopi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth —
(i)trefnu bod copi o'r fersiwn gyfredol o'r arweiniad ar gael i'w archwilio gan y person hwnnw yn y cartref gofal; neu
(ii)darparu copi o'r fath i'r person hwnnw.”.
(3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliad canlynol —
5A.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch—
(a)y ffioedd sy'n daladwy gan y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef am ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth unrhyw un o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau canlynol —
(i)llety, gan gynnwys darparu bwyd;
(ii)nyrsio;
(iii)gofal personol;
(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac
(c)y dull ar gyfer talu'r ffioedd a'r person y mae'r ffioedd yn daladwy ganddo.
(2) Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o leiaf fis ymlaen llaw am—
(a)unrhyw gynnydd yn y ffioedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a);
(b)unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) —
(a)os yw Awdurdod Iechyd neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu'r person cofrestredig ei fod wedi penderfynu gwneud taliad i'r person cofrestredig ar gyfer nyrsio a ddarparwyd (neu sydd i'w ddarparu) i ddefnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(b)os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.
(5) Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad —
(a)os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gyda'r cartref gofal ar gyfer darparu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth; ac
(b)os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.”.
(4) Yn rheoliad 39(2)(d)yn lle “cartref plant” rhoddir “cartref gofal”.
(5) Yn y fersiwn Saesneg o reoliad 39(4) yn lle “children’s home” rhoddir “care home”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) er mwyn darparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol i ddefnyddiwr gwasanaeth —
(a)datganiad ynghylch ffioedd y cartref ar gyfer llety, nyrsio a gofal personol, a gwybodaeth arall mewn perthynas â thalu ffioedd;
(b)manylion unrhyw gynnydd yn y ffioedd neu amrywiad arall yn y materion y cyfeirir atynt yn y datganiad, a rhaid i'r wybodaeth hon gael ei darparu o leiaf fis cyn y bydd effaith i'r cynnydd neu'r amrywiad;
(c)datganiad ynghylch taliadau penodol a wnaed gan Awdurdod Iechyd mewn perthynas â nyrsio a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth gan y cartref.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref drefnu bod copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref ar gael i bawb sy'n gofyn am gopi, ac maent yn cywiro gwall drafftio yn Rheoliadau 2002.
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (gweler y diffiniad o “regulations” yn adran 121(1) o Ddeddf 2000). Mae “appropriate Minister” wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) fel y Cynulliad mewn perthynas â Chymru, ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae “Assembly” wedi'i ddiffinio yn adran 5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gweler adran 22(9) o Ddeddf 2000 ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.
O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254) ac O.S. 2002/2935 (Cy.277).