- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n cael credydau treth yn gymwys i gael talebau optegol GIG).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd.
Mae rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar.
Mae rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol.
Rhyw 1.95% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n derbyn y credydau treth yn gymwys i gael prawf golwg GIG).
Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: