Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 (“y Prif Reoliadau”) yn gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio, ac yn gosod rhwymedigaethau cysylltiedig arnynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r targedau adennill ac ailgylchu yn Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau ar gyfer 2002 ymlaen. Defnyddir y targedau hyn er mwyn cyfrifo rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu. Mae Rheoliad 2(2) yn codi'r darged ar gyfer adennill o 56% i 59% ac mae rheoliad 2(3) yn codi'r darged ar gyfer ailgylchu o 18% i 19%.