xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN III —LLES A DATBLYGIAD PLANT PERTHNASOL

Hybu lles

7.—(1Rhaid i'r person cofrestredig weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn y fath fodd ag i wneud y canlynol—

(a)hybu lles plant perthnasol a darparu'n briodol ar ei gyfer; a

(b)darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg, goruchwyliaeth ac, os yw'n briodol, driniaeth plant perthnasol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, er mwyn darparu gofal i blant perthnasol a darparu'n briodol ar gyfer eu lles, a chyn belled ag y bo'n ymarferol, ddarganfod eu dymuniadau a'u teimladau a'u cymryd i ystyriaeth.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau—

(a)bod preifatrwydd ac urddas plant perthnasol yn cael eu parchu;

(b)bod sylw dyledus yn cael ei roi i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol plant perthnasol ac unrhyw anabledd sy'n effeithio arnynt

tra bod y plant hynny o dan ofal y person.

Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant

8.—(1Os oes bwyd yn cael ei ddarparu i'r plant perthnasol gan y person cofrestredig, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau

(a)eu bod yn cael—

(i)digon o fwyd a bod hwnnw'n cael ei ddarparu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol;

(ii)bwyd sydd wedi'i baratoi'n iawn, sy'n iach ac yn faethlon;

(iii)bwyd sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac sy'n cymryd i ystyriaeth eu dymuniadau rhesymol;

(iv)bwyd sy'n ddigon amrywiol; a

(b)bod unrhyw angen deietegol arbennig plentyn perthnasol, sy'n deillio o iechyd, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol neu gefndir diwylliannol y plentyn, yn cael ei ddiwallu.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod modd i blant perthnasol gael dŵ r yfed ffres yn ystod yr holl gyfnod y maent o dan ofal y person.

Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

9.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)sydd wedi'i fwriadu i ddiogelu plant perthnasol rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

(2Yn benodol rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n gwneud, neu a all fod yn gwneud, ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas â phlentyn perthnasol;

(b)cyfeirio yn ddi-oed unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar blentyn perthnasol at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol;

(c)cadw cofnodion ysgrifenedig am unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac am y camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt;

(ch)bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ym mhob achos i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant perthnasol yn dilyn honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

(d)gofyniad bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran XA o'r Ddeddf;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(dd)trefniadau sy'n rhoi cyfle bob amser i bersonau sy'n gweithio gyda phlant perthnasol weld gwybodaeth ar ffurf briodol a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch lles neu ddiogelwch y plant hynny.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” yw unrhyw ymholiadau a wneir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan y Ddeddf neu odani mewn perthynas ag amddiffyn plant.

Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal

10.—(1Rhaid peidio â defnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol, yn afresymol neu'n groes i baragraff (5) ar blant perthnasol ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, lunio a gweithredu polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig sy'n nodi—

(a)y mesurau rheoli, atal a disgyblu y gellir eu defnyddio ar y safle perthnasol; a

(b)drwy ba fodd y bwriedir hyrwyddo ymddygiad priodol ar y safle hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7) o'r rheoliad hwn, dim ond y mesurau rheoli, atal a disgyblu y darperir ar eu cyfer yn y polisi rheoli ymddygiad a enwyd y caniateir eu defnyddio ar blant perthnasol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r polisi rheoli ymddygiad o dan sylw ac, os yw'n briodol, ei adolygu, a hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol na bygythiad i ddefnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol—

(a)unrhyw ffurf ar gosb gorfforol;

(b)(yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson) unrhyw gyfyngiad ar y plentyn o ran cysylltu neu gyfathrebu â'i rieni;

(c)unrhyw gosb sy'n ymwneud â bwyta bwyd neu yfed diod neu beidio â'u rhoi iddynt;

(ch)unrhyw ofyniad i blentyn wisgo dillad neilltuol neu amhriodol;

(d)defnyddio meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol neu eu gwrthod fel mesur disgyblu;

(dd)cadw plentyn ar ddi-hun yn fwriadol;

(e)unrhyw archwiliad corfforol agos ar blentyn;

(f)gwrthod unrhyw gymhorthion neu offer y mae eu hangen ar blentyn anabl;

(ff)unrhyw fesur sy'n cynnwys—

(i)unrhyw blentyn er mwyn gosod unrhyw fesur ar unrhyw blentyn arall; neu

(ii)cosbi grŵ p o blant am ymddygiad plentyn unigol.

(6Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd—

(a)cymryd unrhyw gamau y mae eu hangen i ddiogelu iechyd plentyn gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig neu'n unol â'u cyfarwyddiadau;

(b)cymryd unrhyw gamau y mae eu hangen ar unwaith i atal niwed i unrhyw berson neu ddifrod difrifol i eiddo.

Anghenion iechyd y plant

11.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hybu iechyd plant perthnasol a'i ddiogelu.

(2Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob plentyn yn cael y cymorth unigol sy'n ofynnol yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd gan y plentyn; a

(b)bod bob amser un person o leiaf sy'n gofalu am blant perthnasol yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf addas.

Peryglon a diogelwch

12.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob rhan o'r safle perthnasol y gall plant perthnasol fynd iddi yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae plant perthnasol yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol; ac

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch plant perthnasol yn cael eu nodi ac yn cael eu dileu i'r graddau y mae hynny'n bosibl.

Defnyddio meddyginiaethau a'u storio

13.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cadw unrhyw feddyginiaeth ar y safle perthnasol yn ddiogel.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)bod plant perthnasol yn cael eu hatal rhag cael gafael ar unrhyw feddyginiaeth heb oruchwyliaeth;

(b)bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd ar gyfer plentyn perthnasol yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodwyd, i'r plentyn y mae wedi'i rhagnodi ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddwyd i blentyn perthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhagnodwyd” neu “wedi'i rhagnodi” yw

(a)wedi'i harchebu ar gyfer claf i gael ei darparu ar ei gyfer—

(i)o dan adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) neu'n unol â hi; neu

(ii)fel rhan o gyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(2); neu

(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), wedi'i rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(3).

Cwynion

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion sy'n cael eu gwneud gan blant perthnasol neu ar eu rhan.

(2Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn ddarparu ar gyfer trefniadau i roi gwybod am y weithdrefn

(a)i blant perthnasol;

(b)i'w rhieni; ac

(c)i bersonau sy'n gweithio dros y person cofrestredig.

(3Os gofynnir amdano, rhaid darparu copi o'r weithdrefn i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a ddarperir o dan baragraff (3) gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)manylion y weithdrefn (os o gwbl) sydd wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cyflwyno cwynion iddo mewn perthynas â darparu gofal gan warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i unrhyw gwyn sy'n cael ei gwneud o dan y weithdrefn gwynion.

(6Rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau, hysbysu'r person sydd wedi gwneud y gwyn am unrhyw gamau (os o gwbl) sydd i'w cymryd.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud am unrhyw gwyn, am y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi ac am ganlyniad yr ymchwiliad.

(8Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.

(3)

1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys 1992 (p.28).