xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 810 (Cy.90)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

21 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1), 32 a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(2).

Ffurf y trefniadau amgen

2.—(1Diwygir Rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

(2Dilëir y gair “awdurdod” yn y llinell gyntaf ac yn ei le rhoddir “awdurdodau”.

(3Ym mharagraff (a) mewnosodir ar ôl “Bwrdd” y geiriau

3.—(1Diwygir Rheoliad 4(2) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

(2Ar ddiwedd paragraff (c) dileïr y gair “ac” ac ar ôl paragraf (ch) mewnosodir:

(d)is-bwyllgor i'r Bwrdd i fod yn bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol iddo yn unol ag Adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol 1970 ;

(dd)pwyllgor apelau cyflogaeth; ac

(e)mwyafrif o bedwar pwyllgor arall, y gall Rheolau Sefydlog yr awdurdod ddarparu ar eu cyfer, ac a fyddant ond yn arfer swyddogaethau nad ydynt, yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, yn gyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol hyn ar yr amod bod unrhyw benderfyniad i sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei hysbysebu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.

Gofynion ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau

4.—(1Diwygir Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

(2Yn lle'r geiriau “Caiff y Bwrdd” mewnosodir y geiriau:

Swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd

5.—(1Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod) i Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

(2Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 o Ran I (Swyddogaethau Amrywiol) yn ngholofn (1)

ac i benderfynu'r amodau a thelerau yn amodol i'r rheini y daliant eu swydd (gan gynnwys gweithdrefnau i'w diswyddo).

(3Ychwanegir ar ddiwedd Rhan I (Swyddogaethau Amrywiol):

(a)yng ngholofn (1):

17.  Y pŵer i wneud gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.;

(b)yng ngholofn (2):

Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16.).(4);

(c)yng ngholofn (1):

18.  Y pŵer i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc.

(ch)yng ngholofn (2):

Adrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).(5);

(d)yng ngholofn (1):

19.  Y pŵer i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.;

(dd)yng ngholofn (2):

Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac ar ba ffurf y dylai'r trefniadau hynny ei chymryd (adran 32(1)). O dan y darpariaethau hynny y gwnaeth y Cynulliad Cenedlaethol Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n defnyddio'r un darpariaethau statudol, yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn gwneud mân newidiadau i'r ffurf angenrheidiol i'r trefniadau amgen ac er mwyn dyfarnu sut y gall cyngor gyflawni ei swyddogaeth mewn perthynas â rhai pwerau ychwanegol penodedig.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel bod rhaid i Fwrdd awdurdod lleol weithredu fel ei bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol oni ddynodir is-bwyllgor i'r Bwrdd at y diben hwnnw. Yn Rheoliad 3 mae diwygiad i reoliad 4(2) o Reoliadau 2001 hefyd yn caniatáu creu is-bwyllgor i'r Bwrdd i ymgymryd â rôl y pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol os yw'r awdurdod lleol yn dewis hynny, creu pwyllgor apelau cyflogaeth a chreu hyd at bedwar pwyllgor (na chaniateir iddynt arfer ond y swyddogaethau nad yw Bwrdd awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt).

Mae'r Rheoliad hefyd yn mynnu bod awdurdod lleol sy'n penderfynu sefydlu pwyllgor neu is-bwyllgor yn unol â Rheoliad 4(2)(e) yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 i wahardd cadeirydd neu is-gadeirydd awdurdod lleol rhag bod yn aelod o'r Bwrdd.

Diwygir Atodlen 1 o Reoliadau 2001 gan Reoliad 5. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) ynglŷn â phenodi staff er mwyn ei gwneud yn eglur nad cyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol fydd penderfynu amodau a thelerau (gan gynnwys gweithdrefnau diswyddo). Mae'r diwygiad hwn yn golygu hefyd fod y pŵer i wneud Gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol o dan adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 yn un y mae'n rhaid i Fwrdd awdurdod lleol beidio â'i arfer. Mae'n rhaid i'r cyngor llawn, ac nid Bwrdd awdurdod lleol, gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.