xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 784 (Cy.85)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002

Wedi'i wneud

21 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

GAN FOD adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1), (“Deddf 1998”), a rhan 1 o Atodlen 4 iddi yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) y pwer i drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaethau statudol y Pwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) a sefydlwyd o dan adran 11(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2) (“Deddf 1995”);

A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Pwyllgor Ymgynghorol, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, neu sy'n gysylltiedig â hwy, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn syrthio y tu mewn i adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998;

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998 a rhan 1 o Atodlen 4 iddi, trwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.

(3Yny Gorchymyn hwn ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol” (“the Advisory Committee”) yw'r pwyllgor a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 1995 i gynghori ynglyn â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sydd fel arall yn gysylltiedig â hwy.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a darpariaethau ôl-ddilynol

2.—(1Diddymir y Pwyllgor Ymgynghorol a'i swyddogaethau.

(2Diddymir adran 11 o Ddeddf 1995.

(3Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau sy'n eiddo i'r Pwyllgor Ymgynghorol ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Pwyllgor Ymgynghorol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Sefydlodd adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) Bwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) er mwyn cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar gyflawni swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sy'n gysylltiedig â hwy.

Effaith Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo, yw ei bod yn ofynnol bellach i'r Pwyllgor Ymgynghorol gynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Pennwyd y Pwyllgor Ymgynghorol yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y gall y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun trwy Orchymyn o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998.

Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol, trwy Orchymyn, ddiddymu swyddogaeth corff felly yn hytrach na'i throsglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'r swyddogaeth yn gofyn am i rywbeth gael ei wneud mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol (swyddogaeth cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun yn yr achos hwn).

Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu diddymu corff a bennwyd yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998, trwy Orchymyn, os bydd pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.

Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall Gorchymyn a wnaed o dan adran 28(3) gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r corff hwnnw.

Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol gan gynnwys diddymu deddfiadau.

Effaith erthyglau 2(1) a 2(2) o'r Gorchymyn hwn yw diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a'r darpariaeth statudol o dan yr hyn y sefydlwyd y Pwyllgor. Bwriedir y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o hyn allan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol mewn perthynas â'r materion hynny y bu'r Pwyllgor Ymgynghorol yn cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol arnynt hyd yn hyn.

Mae unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Pwyllgor Ymgynghorol, trwy erthygl 2(3), yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.