- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Mae Erthygl 7 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn perthynas â chychod pysgota) o'r Gorchymyn yn cael ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle “i (4)” rhoddir “i (8)”.
(3) Ar ôl paragraff (4) mewnosodir—
“(5) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y ddyfais olrhain loerennol ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota o'r Alban wedi methu â gweithredu, pan nad oedd y cwch yn y porthladd, yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn, gall y swyddog hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), unrhyw bryd y mae'r cwch mewn porthladd, gyflwyno i'r capten neu'r perchennog hysbysiad o dan baragraff (6).
(6) Mae'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn hysbysiad—
(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cwch gael ei gadw yn y porthladd o adeg cyflwyno'r hysbysiad hyd nes i'r cyfnod monitro penodedig ddod i ben; a
(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ddyfais gael ei gosod (mor agos ag y mae ei chyflwr yn caniatáu) fel ei bod yn trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig—
(i)yn achos dyfais sydd wedi'i dylunio i allu cael ei pholio, o leiaf bob dwy awr; a
(ii)yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio felly, o leiaf bob awr.
(7) Rhaid peidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (6) yn ddiweddarach na 30 diwrnod ar ôl y diwrnod diwethaf y methodd y ddyfais olrhain loerennol â gweithredu yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn ym marn y swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a)ym mharagraffau (5) a (7) mae'r cyfeiriad at erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth i'r un perwyl a wnaed drwy orchymyn sy'n gymwys i ddyfroedd y tu hwnt i'r môr tiriogaethol cyfagos â Chymru;
(b)ym mharagraff (6) ystyr “y cyfnod monitro penodedig” yw cyfnod o 24 awr sy'n cael ei bennu yn yr hysbysiad (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â dechrau yn hwyrach na 9.00 a.m. ar y diwrnod o'r wythnos ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno).”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: