- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
26. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch)),—
(a)y rhif safonol perthnasol ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol;
(b)nifer y grwpiau blwyddyn;
(c)faint o le sydd yn yr ysgol; ac
(ch)nifer y disgyblion yn yr ysgol.
27. Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol a'r pedair blwyddyn ysgol flaenorol—
(a)nifer y disgyblion yn yr ysgol;
(b)nifer y disgyblion ym mhob grŵp oedran ac o bob rhyw; ac
(c)nifer y disgyblion â phob un o'r mathau o anghenion addysgol arbennig y mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer yn yr ysgol.
28. Yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ystafelloedd yn yr ysgol—
(a)lleoliad yr ystafelloedd;
(b)a yw'r ysgol ar safle sengl neu ar safle wedi'i rannu; ac
(c)manylion yr ystafelloedd cyffredinol ac arbenigol.
29. Manylion yr ysgolion a'r colegau addysg bellach y gellid yn rhesymol, ym marn y Cyngor, ddisgwyl i'r disgyblion a fyddai fel arall wedi mynychu'r ysgol allu eu mynychu ar ôl darfod oedran ysgol gorfodol os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.
30. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 23 am y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 29.
31. Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 29 sydd yn ysgolion.
32. Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a bennir ym mharagraff 29 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: