- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
15. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (c)),—
(a)nifer y grwpiau blwyddyn,
(b)faint o le sydd yn yr ysgol, ac
(c)nifer y disgyblion sydd yn yr ysgol,
a rhagolwg o'r materion hynny ym mhob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.
16. Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r pedair blwyddyn ysgol flaenorol—
(a)nifer y disgyblion yn yr ysgol,
(b)nifer y disgyblion ym mhob grŵp oedran ac o bob rhyw, ac
(c)nifer y disgyblion â phob un o'r mathau o anghenion addysgol arbennig y mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer yn yr ysgol,
a rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.
17. Pan fydd y cynigion yn ymwneud ag ysgol wirfoddol, datganiad a fydd, o ganlyniad i'r cynigion, angen mwyach am y tir a'r adeiladau a ddefnyddir at ddibenion yr ysgol ac os na fydd angen—
(a)datganiad a yw'r tir a'r adeiladau hynny i'w gwerthu, ac os felly, amcangyfrif o arenillion y gwerthiant, a
(b)os nad yw'r tir a'r adeiladau i'w gwerthu, datganiad ar ddefnydd arfaethedig y tir a'r adeiladau,
os trefnwyd bod yr wybodaeth honno ar gael i'r Cyngor.
18. Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grŵp blwyddyn sy'n aros yn yr ysgol sy'n destun cynigion yn y ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol gyfredol.
19. Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grŵp oedran sydd wedi trosglwyddo o'r ysgol sy'n destun y cynigion i sefydliad arall sy'n darparu addysg llawn amser neu ran-amser yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 18.
20. Manylion y sefydliadau y trosglwyddodd y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 19 iddynt gan ddangos faint o ddisgyblion a aeth i bob sefydliad felly.
21. Nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 18 a 19 ym mhob grŵp blwyddyn fel cyfran o gyfanswm y disgyblion yn y grŵp blwyddyn hwnnw.
22. Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y bwriedir y gall disgyblion sy'n cael addysg chweched dosbarth ar hyn o bryd drosglwyddo iddynt os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.
23. Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau canlynol ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 20—
(a)canlyniadau arholiadau TGAU wedi'u cyfyngu, yn achos ysgolion heblaw'r ysgol sy'n destun y cynigion a cholegau addysg bellach, i ganlyniadau arholiadau TGAU a gymerwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;
(b)canlyniadau arholiadau safon Uwch ac Uwch Gyfrannol TAG, ac
(c)NVQs, GNVQs a chymwysterau galwedigaethol eraill a enillwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol.
24. Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 20 sydd yn ysgolion.
25. Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 20 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 22 (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: