Search Legislation

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3279 (Cy.317)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion (gyda rhai addasiadau) yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a

(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

  • ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994(2);

Adrannau etholiadol

2.—(1Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Tor-faen a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994 wedi'u diddymu.

(2At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen, rhennir y fwrdeistref sirol honno yn 24 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.

(3Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol

3.  Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. Hart

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

6 Rhagyfr 2002

Erthygl 2

YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol bwrdeistref sirol Tor-faen

(1)(2)(3)
Enw'r Adran EtholiadolArdal yr Adran EtholiadolY nifer o gynghorwyr
AbersychanCymuned Abersychan3
BlaenafonCymuned Blaenafon3
Bryn-wernWard Bryn-wern yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel1
Coed EfaWard Coed Efa yng Nghymuned Fairwater1
Gogledd CroesyceiliogWard Gogledd Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog2
De CroesyceiliogWard De Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog1
CwmynysgoiWard Cwmynysgoi yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel1
FairwaterWard Fairwater ac Oaksford yng Nghymuned Fairwater2
GreenmeadowWard Greenmeadow yng Nghymuned Fairwater2
LlantarnamCymuned Llantarnam ac ward Southville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog2
Gogledd LlanyrafonWard Gogledd Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon1
De LlanyrafonCymuned Pont-hir ac ward De Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon1
New InnCymuned New Inn3
PantegCymuned Panteg3
PontnewyddCymuned Pontnewydd ac ward Northville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog3
PontnewynyddWard Pontnewynydd ng Nghymuned Pen Transh1
Pont-y-pŵlWard Pont-y- pŵl yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel1
SnatchwoodWard Snatchwood yng Nghymuned Pen Transh1
St Cadocs a Phen-y-garnWard St Cadocs a Phen-y-garn yng Nghymuned Trefddyn1
Llanfihangel LlantarnamWard Llanfihangel Llantarnam yng Nghymuned Cwmbrân Canolog2
TrefddynWard Trefddyn yng Nghymuned Trefddyn2
Two LocksWard Two Locks yng Nghymuned Cwmbrân Canolog ac yng Nghymuned Henllys3
CwmbrânCymuned Cwmbrân Uchaf3
WaunfelinWard Waunfelin yng Nghymuned Pen Transh1

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eiu heffaith (gyda rhai addasiadau) i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Hydref 1999 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau Abersychan, Blaenafon, Bryn-wern, Coed Efa, Gogledd Croesyceiliog, De Croesyceiliog, Cwmynysgoi, Fairwater, Greenmeadow, Llantarnam, Gogledd Llanyrafon, De Llanyrafon, Pant-eg, Pontnewydd, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl, Snatchwood, St Cadocs a Phen-y-garn, Llanfihangel Llantarnam, Trefddyn, Two Locks, Cwmbrân, Waunfelin.

Er hynny bydd adrannau presennol New Inn Isaf a New Inn Uchaf yn cael eu cyfuno i ffurfio etholaeth adran etholiadol New Inn. Bydd yn cynnwys Cymuned New Inn ac yn cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd.

(2)

Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources