2002 Rhif 3278 (Cy.316)
Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Ceredigion. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
a
at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
b
at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
3
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Ceredigion fel y'u sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 19942;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “map A” (“map A”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map A Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberystwyth 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 3;
ystyr “map B” (“map B”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map B Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberteifi 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
ystyr “map C” (“map C”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map C Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Llanbadarn Fawr 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.
Adrannau etholiadol2
1
Mae adrannau etholiadol presennol Sir Ceredigion a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994 wedi'u diddymu.
2
At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Ceredigion, rhennir y Sir honno yn 40 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y mapiau ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
3
Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol3
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Ceredigion
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y Nifer o Gynghorwyr |
Aberaeron | Cymuned Aberaeron | 1 |
Aber-porth | Cymuned Aber-porth | 1 |
Aberteifi/ Cardigan — Mwldan | Ward Mwldan yng Nghymuned Aberteifi | 1 |
Aberteifi/ Cardigan — Rhyd-y-fuwch | Ward Rhyd-y-fuwch yng Nghymuned Aberteifi | 1 |
Aberteifi/ Cardigan — Teifi | Ward Teifi yng Nghymuned Aberteifi | 1 |
Aberystwyth Bronglais | Ward Ddwyreiniol Cymuned Aberystwyth | 1 |
Aberystwyth Canol/Central | Ward Ganalog Cymuned Aberystwyth | 1 |
Aberystwyth Gogledd/North | Ward Ogleddol Cymuned Aberystwyth | 1 |
Aberystwyth Penparcau | Ward Ddeheuol Cymuned Aberystwyth | 2 |
Aberystwyth Rheidol | Ward Glanyrafon Cymuned Aberystwyth | 1 |
Beulah | Cymuned Beulah | 1 |
Capel Dewi | Wardiau Capel Dewi Pont-siân a Thre-groes yng Nghymuned Llandysul | 1 |
Ceinewydd | Cymuned Ceinewydd | 1 |
Ceulan-a-Maesmor | Cymunedau Ceulan a Maesmor Llangynfelyn ac Ysgubor-y-coed | 1 |
Ciliau Aeron | Cymunedau Ciliau Aeron a Henfynyw | 1 |
Faenor | Cymuned Faenor | 1 |
Llanbadarn Fawr -Padarn | Ward Padarn yng Nghymuned Llanbadarn Fawr | 1 |
Llanbadarn Fawr -Sulien | Ward Sulien yng Nghymuned Llanbadarn Fawr | 1 |
Llanbedr Pont Steffan | Cymuned Llanbedr Pont Steffan | 2 |
Llandyfrïog | Cymuned Llandyfrïog | 1 |
Llandysiliogogo | Cymunedau Llandysiliogogo a Llanllwchaiarn | 1 |
Llanfarian | Cymuned Llanfarian | 1 |
Llanfihangel Ystrad | Cymuned Llanfihangel Ystrad a wardiau Nantcwnlle a Threfilan yng Nghymuned Nantcwnlle | 1 |
Llangeitho | Cymunedau Llanddewibrefi a Llangeitho | 1 |
Llangybi | Cymunedau Llanfair Clydogau a Llangybi a ward Gartheli yng Nghymuned Nantcwnlle | 1 |
Llannarth | Cymuned Llannarth | 1 |
Llanrhystud | Cymunedau Llangwyryfon a Llanrhystud | 1 |
Llansanffraid | Cymunedau Dyffryn Arth a Llansanffraid | 1 |
Llanwenog | Cymunedau Llanwenog a Llanwnnen | 1 |
Lledrod | Cymunedau Lledrod, Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig | 1 |
Melindwr | Cymunedau Blaenrheidol, Melindwr a Phontarfynach | 1 |
Penbryn | Cymunedau Llangrannog a Phenbryn | 1 |
Pen-parc | Cymunedau Llangoedmor a'r Ferwig | 1 |
Tirymynach | Cymuned Tirymynach | 1 |
Trefeurig | Cymuned Trefeurig | 1 |
Tref Llandysul | Ward Trefol yng Nghymuned Llandysul | 1 |
Tregaron | Cymuned Tregaron | 1 |
Troed-yr-aur | Cymuned Troed-yr-aur | 1 |
Y Borth | Cymunedau'r Borth a Genau'r Glyn | 1 |
Ystwyth | Cymunedau Llanilar a Thrawsgoed | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)