1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Ceredigion fel y'u sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “map A” (“map A”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map A Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberystwyth 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (2);
ystyr “map B” (“map B”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map B Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Aberteifi 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976;
ystyr “map C” (“map C”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “map C Gorchymyn Adrannau Etholiadol Cymuned Llanbadarn Fawr 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976.
2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Ceredigion a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Aberteifi 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Ceredigion, rhennir y Sir honno yn 40 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y mapiau ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E.Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
3 Rhagfyr 2002