Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 1994(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
2.—(1) Diddymir adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Casnewydd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 1994.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd, rhennir y Fwrdeistref Sirol honno yn 20 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn cynnwys yr ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E.Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
ERTHYGL 2
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran tholiadol | Y Nifer o Gynghorwyr |
Allt-yr-ynn | Cymuned Allt-yr-ynn | 3 |
Alway | Cymuned Alway | 3 |
Beechwood | Cymuned Beechwood | 3 |
Betws | Cymuned Betws | 3 |
Caerllion | Cymuned Caerllion | 3 |
Y Gaer | Cymuned y Gaer | 3 |
Y Graig | Cymuned y Graig | 2 |
Langstone | Cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-hŵ | 2 |
Liswerry | Cymunedau Liswerry a Threfonnen | 4 |
Llan-wern | Cymunedau Trefesgob, Allteuryn, Llan-wern a Redwick | 1 |
Malpas | Cymuned Malpas | 3 |
Maerun | Cymunedau Coedcernyw, Maerun, Llanfihangel-y-fedw a Gwynllwg | 2 |
Pilgwenlli | Cymuned Pilgwenlli | 2 |
Ringland | Cymuned Ringland | 3 |
Tŷ-du | Cymuned Tŷ-du | 3 |
Shaftesbury | Cymuned Shaftesbury | 2 |
Sain Silian | Cymuned Sain Silian | 3 |
Stow Hill | Cymuned Stow Hill | 2 |
Parc Tredegar | Cymuned Parc Tredegar | 1 |
Victoria | Cymuned Victoria | 2 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Rhagfyr 1999 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Er bod y Gorchymyn yn dileu pob adran etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath.
Mae'r trefniadau presennol yn aros yr un fath ar gyfer adrannau etholiadol Allt-yr-ynn, Alway, Beechwood, Betws, Caerllion, Y Gaer, Y Graig, Llan-wern, Malpas, Pilgwenlli, Ringland, Tŷ-du, Shaftesbury, Sain Silian, Stow Hill, Parc Tredegar, Victoria.
Cynrychiolir adran Langstone, sy'n cynnwys cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-hŵ , gan ddau gynghorydd.
Mae adran etholiadol Liswerry i gynnwys cymunedau Liswerry a Threfonnen ac mae i'w chynrychioli gan bedwar cynghorydd.Ni fydd adran etholiadol Llan-wern felly yn cynnwys cymuned Treffonen.
Mae adran Maerun, sy'n cynnwys cymunedau Coedcernyw, Maerun, Llanfihangel-y-fedw a Gwynllwg, i'w cynrychioli gan ddau gynghorydd.
Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.