2002 Rhif 3276 (Cy.314)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

a

at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a

b

at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 19942;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Adrannau Etholiadol2

1

Diddymir adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Casnewydd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 1994.

2

At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd, rhennir y Fwrdeistref Sirol honno yn 20 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn cynnwys yr ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo.

3

Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol3

Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E.HartY Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd

ERTHYGL 2

(1)

(2)

(3)

Enw'r Adran Etholiadol

Ardal yr Adran tholiadol

Y Nifer o Gynghorwyr

Allt-yr-ynn

Cymuned Allt-yr-ynn

3

Alway

Cymuned Alway

3

Beechwood

Cymuned Beechwood

3

Betws

Cymuned Betws

3

Caerllion

Cymuned Caerllion

3

Y Gaer

Cymuned y Gaer

3

Y Graig

Cymuned y Graig

2

Langstone

Cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-hŵ

2

Liswerry

Cymunedau Liswerry a Threfonnen

4

Llan-wern

Cymunedau Trefesgob, Allteuryn, Llan-wern a Redwick

1

Malpas

Cymuned Malpas

3

Maerun

Cymunedau Coedcernyw, Maerun, Llanfihangel-y-fedw a Gwynllwg

2

Pilgwenlli

Cymuned Pilgwenlli

2

Ringland

Cymuned Ringland

3

Tŷ-du

Cymuned Tŷ-du

3

Shaftesbury

Cymuned Shaftesbury

2

Sain Silian

Cymuned Sain Silian

3

Stow Hill

Cymuned Stow Hill

2

Parc Tredegar

Cymuned Parc Tredegar

1

Victoria

Cymuned Victoria

2

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Rhagfyr 1999 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Er bod y Gorchymyn yn dileu pob adran etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath.

Mae'r trefniadau presennol yn aros yr un fath ar gyfer adrannau etholiadol Allt-yr-ynn, Alway, Beechwood, Betws, Caerllion, Y Gaer, Y Graig, Llan-wern, Malpas, Pilgwenlli, Ringland, Tŷ-du, Shaftesbury, Sain Silian, Stow Hill, Parc Tredegar, Victoria.

Cynrychiolir adran Langstone, sy'n cynnwys cymunedau Langstone, Llanfaches a Phen-hŵ , gan ddau gynghorydd.

Mae adran etholiadol Liswerry i gynnwys cymunedau Liswerry a Threfonnen ac mae i'w chynrychioli gan bedwar cynghorydd.Ni fydd adran etholiadol Llan-wern felly yn cynnwys cymuned Treffonen.

Mae adran Maerun, sy'n cynnwys cymunedau Coedcernyw, Maerun, Llanfihangel-y-fedw a Gwynllwg, i'w cynrychioli gan ddau gynghorydd.