Search Legislation

Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3274 (Cy.312)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Medi 1998 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Gwynedd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym—

(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a

(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Gwynedd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd 1994(2);

  • ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

Adrannau Etholiadol

2.—(1Mae adrannau etholiadol presennol Sir Gwynedd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Gwynedd 1994 wedi'u diddymu.

(2At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Gwynedd, rhennir y Sir honno yn 71 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honNo.

(3Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol

3.  Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. Hart

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002

Erthygl 2

YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Gwynedd

(1)(2)(3)
Enw'r Adran EtholiadolArdal yr Adran EtholiadolY Nifer o Gynghorwyr
AberdaronCymuned Aberdaron1
AberdyfiCymunedau Aberdyfi a Phennal1
AbererchWardiau Abererch a'r Ffôr yng Nghymuned Llannor1
AbermawCymuned Abermo1
Aber-sochWard Aber-soch Cymuned Llanengan1
ArllechweddCymuned Aber a Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái1
Y BalaCymuned y Bala1
BethelWard Bethel Cymuned Llanddeiniolen1
Y BontnewyddCymuned y Bontnewydd1
BotwnnogCymuned Botwnnog1
Bowydd a'r RhiwWardiau Bowydd a'r Rhiw a ward Tanygrisiau Cymuned Ffestiniog1
Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/ LlanelltudCymunedau Brithdir a Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud1
Bryn-crug/ LlanfihangelCymunedau Bryn-crug a Llanfihangel-y-Pennant1
CadnantWard y Dwyrain yng Nghymuned Caernarfon1
ClynnogCymuned Clynnog1
Corris/MawddwyCymunedau Corris a Mawddwy1
CricciethCymuned Criccieth1
Cwm-y-gloWardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug1
DeiniolWard Deiniol Cymuned Bangor1
DeiniolenWardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig Cymuned Llanddeiniolen1
DewiWard Dewi Cymuned Bangor1
Diffwys a MaenofferenWard Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog1
DolbenmaenWardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen1
Gogledd DolgellauWard Ogleddol a Ward Wledig Cymuned Dolgellau1
De DolgellauWard Ddeheuol Cymuned Dolgellau1
Dyffryn ArdudwyCymuned Dyffryn Ardudwy1
Efailnewydd/BuanCymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf Cymuned Llannor1
GarthWard Garth Cymuned Bangor1
GerlanWardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda1
GlyderWard Glyder Cymuned Bangor1
Y GroeslonWardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog1
HarlechCymunedau Harlech a Thalsarnau1
HendreWard Hendre Cymuned Bangor1
HiraelWard Hirael Cymuned Bangor1
LlanaelhaearnCymunedau Llanaelhaearn a Phistyll1
LlanbedrCymunedau Llanbedr a Llanfair1
LlanbedrogCymuned Llanbedrog1
LlanberisCymuned Llanberis1
LlandderfelCymunedau Llandderfel a Llanycil1
LlanenganWardiau Llanengan a Llangïan Cymuned Llanengan1
LlangelynninCymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin1
LlanllyfniWardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni1
LlanrugWard Llanrug Cymuned Llanrug1
LlanuwchllynCymunedau Llanuwchllyn a Llangywer1
LlanwndaCymuned Llanwnda1
LlanystumdwyCymuned Llanystumdwy1
MarchogWard Marchog Cymuned Bangor2
Menai (Bangor)Ward Menai Cymuned Bangor2
Menai (Caernarfon)Ward y Gogledd yng Nghymuned Caernarfon1
Morfa NefynWardiau Edern a Morfa Nefyn yng Nghymuned Nefyn1
NefynWard Nefyn Cymuned Nefyn1
OgwenWard Ogwen Cymuned Bethesda1
Peblig (Caernarfon)Ward Ddeheuol Cymuned Caernarfon1
Penisa'r-waunWardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiw las Cymuned Llanddeiniolen1
PenrhyndeudraethCymunedau Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth1
PentirCymuned Pentir1
Pen-y-groesWard Pen-y-groes Cymuned Llanllyfni1
Dwyrain PorthmadogWard y Dwyrain a Ward Ynys Galch yng Nghymuned Porthmadog1
Gorllewin PorthmadogWard y Gest, Ward Morfa Bychan a Ward y Gorllewin yng Nghymuned Porthmadog1
Porthmadog-TremadogCymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog1
Gogledd PwllheliWard y Gogledd yng Nghymuned Pwllheli1
De PwllheliWard y De yng Nghymuned Pwllheli1
SeiontWard y Gorllewin yng Nghymuned Caernarfon2
Tal-y-sarnWardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni1
TeiglWardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog1
TrawsfynyddCymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd1
Tre-garth a Mynydd LlandygáiWardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái1
TudweiliogCymuned Tudweiliog1
TywynCymuned Tywyn2
WaunfawrCymunedau Betws Garmon a Waunfawr1
Y FelinheliCymuned y Felinheli1

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y byddai'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Medi 1998 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Gwynedd.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau Aberdaron, Aberdyfi, Abererch, Aber-soch, Y Bala, Bethel, Y Bontnewydd, Botwnnog, Bowydd a'r Rhiw, Cadnant, Clynnog, Corris/Mawddwy, Criccieth, Deiniol, Deiniolen, Dewi, Dyffryn Ardudwy, Efailnewydd/Buan, Garth, Glyder, Harlech, Hendre, Hirael, Llanaelhaearn, Llanbedr, Llanbedrog, Llanberis, Llandderfel, Llanengan, Llanuwchllyn, Llanwnda, Marchog, Menai (Bangor), Nefyn, Ogwen, Peblig (Caernarfon), Pen-y-groes, Gogledd Pwllheli, De Pwllheli, Seiont, Trawsfynydd, Tudweiliog, Tywyn, Waunfawr, Y Felinheli.

Serch hynny, mae'r adrannau etholiadol newydd canlynol i'w creu:

  • Abermaw i gynnwys Cymuned Abermo ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Arllechwedd i gynnwys Cymunedau Aber, Llanllechid a ward Llandygái Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/Llanelltud i gynnwys Cymunedau Brithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltud ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Bryn-crug/Llanfihangel i gynnwys Cymunedau Bryn-crug, a Llanfihangel-y-Pennant ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Cwm-y-glo i gynnwys wardiau Ceunant a Chwm-y-glo Cymuned Llanrug, ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Adran Diffwys a Maenofferen i gynnwys ward Diffwys a Maenofferen Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Dolbenmaen i gynnwys wardiau Bryncir, Y Garn, Golan, Penmorfa a Threflys Cymuned Dolbenmaen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Gogledd Dolgellau i gynnwys ward Ogleddol a ward Wledig Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • De Dolgellau i gynnwys ward Ddeheuol Cymuned Dolgellau ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Y Groeslon i gynnwys wardiau Dinas Dinlle a'r Groeslon yng Nghymuned Llandwrog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Llanystumdwy i gynnwys Cymuned Llanystumdwy ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Morfa Nefyn i gynnwys wardiau Edern a Morfa Nefyn Cymuned Nefyn ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Teigl i gynnwys wardiau Congl-y-wal a Chynfal a Theigl Cymuned Ffestiniog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Tre-garth a Mynydd Llandygái i gynnwys wardiau St Ann’s a Thre-garth Cymuned Llandygái ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

Bydd cyfansoddiad yr adrannau presennol canlynol yn newid:

  • Gerlan i gynnwys wardiau Gerlan a Rachub Cymuned Bethesda ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Llangelynnin i gynnwys Cymunedau Arthog, Llanegryn a Llangelynnin ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Llanllyfni i gynnwys wardiau Llanllyfni, Nantlle a Nebo Cymuned Llanllyfni i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Penisa'r-waun i gynnwys wardiau Bryn'refail, Penisa'r-waun a Rhiwlas Cymuned Llanddeiniolen ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Dwyrain Porthmadog i gynnwys ward y Dwyrain a ward Ynys Galch Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Gorllewin Porthmadog i gynnwys ward y Gest, ward Morfa Bychan a ward y Gorllewin Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Porthmadog-Tremadog i gynnwys Cymuned Beddgelert, ward Pren-teg Cymuned Dolbenmaen a ward Tremadog Cymuned Porthmadog ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

  • Tal-y-sarn i gynnwys wardiau Carmel a Chesarea Cymuned Llandwrog a ward Tal-y-sarn Cymuned Llanllyfni ac i gael ei chynrychioli gan un cynghorydd.

Mae newid hefyd yn y nifer o gynghorwyr ar gyfer yr adrannau canlynol:

  • Mae cynrychiolaeth Llanrug yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

  • Mae cynrychiolaeth Menai (Caernarfon) yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

  • Mae cynrychiolaeth Penrhyndeudraeth yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

  • Mae cynrychiolaeth Pentir yn cael ei gostwng o ddau gynghorydd i un.

(2)

Mae enw'r Sir wedi'i newid o Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i Wynedd yn unol ag adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources