2002 Rhif 3273 (Cy.311)
Gorchymyn Caerdydd a Bro Morgannwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ionawr 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1), 58(1) a 73 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 ar ei adolygiad ar y ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg yn ardal Ffordd Ddolen Grangetown ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2 yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “Bro Morgannwg” (“Vale of Glamorgan”) yw Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
ystyr “Caerdydd” (“Cardiff”) yw Dinas a Sir Caerdydd;
ystyr “y map ffiniau ” (“the boundary map”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)3.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3
Bydd y rhan o Fro Morgannwg sydd yng Nghymuned Llanfihangel-ynys-Afan ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Grangetown yng Nghaerdydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)