Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3272 (Cy.310)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ar ei adolygiad ar ran o'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;

a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau y mae eu heffaith yn cynnwys trosglwyddo ardal o dir sy'n gyffiniol â'r eiddo “Parc y Ffrier” o Sir Ceredigion i Sir Benfro;

a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Ceredigion” yw Sir Ceredigion.

ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)(3);

ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro.

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau

3.  Bydd y rhannau o Geredigion a farciwyd A ar fap ffiniau A ac a farciwyd B ar fap ffiniau B yn cael eu gwahanu oddi wrth y sir honno a byddant yn ffurfio rhan o Sir Benfro. Gan hynny bydd cymuned Llandudoch yn ffurfio rhan o Sir Benfro.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. Hart

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002