2002 Rhif 3271 (Cy.309)
Gorchymyn Casnewydd (Caerllion a Malpas) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Mawrth 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 ar ei adolygiad ar ran o Gymunedau Caerllion a Malpas ym Mwrdeistref Sirol Casnewydd ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2 yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Casnewydd (Caerllion a Malpas) 2002.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “Casnewydd” (“Newport”) yw Bwrdeistref Casnewydd;
ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Gorchymyn Casnewydd (Caerllion a Malpas) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)3.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3
Bydd y rhan o Gasnewydd sydd yng nghymuned Caerllion ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Malpas.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)