Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3270 (Cy.308)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Deddf Llywodraeth Leol 1972(1) ar ei adolygiad ar y rhan o'r ffin rhwng Siroedd Caerfyrddin a Phenfro yn ardal cymunedau Clynderwen a Gorllewin Llandysilio ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;

a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau ac effaith yr addasiadau yw cynnwys trosglwyddo'r tir a'r eiddo a elwir “Troed y Rhiw”;

a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau

3.—(1Mae cymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A yn cael ei gwahanu oddi wrth Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro.

(2Mae'r rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;

(3Mae'r rhan o gymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin.

(4Mae'r rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen.

(5Mae'r rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E.Hart

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith gydag addasiadau i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion addasedig hynny ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw'r canlynol:

(i)trosglwyddir cymuned Clynderwen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) o Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro;

(ii)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys tir ac eiddo a elwir “Troed y Rhiw”) (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;

(iii)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin;

(iv)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;

(v)bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Gaerfyrddin yng nghyffiniau Fferm Pen-deri (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) ac nad yw'n cynnwys unrhyw anheddau yn dod yn rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Benfro fel y bydd y ffin yn yr ardal honno yn dilyn canol Afon Daulan.

Mae printiau o'r mapiau ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/1247).