Search Legislation

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “map ffiniau C” (“boundary map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “map ffiniau Ch” (“boundary map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “map ffiniau D” (“boundary map E”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map D Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)(1);

  • ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro;

  • ystyr “Sir Gaerfyrddin” (“Carmarthenshire”) yw Sir Gaerfyrddin.

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau

3.—(1Mae cymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A yn cael ei gwahanu oddi wrth Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro.

(2Mae'r rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;

(3Mae'r rhan o gymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin.

(4Mae'r rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen.

(5Mae'r rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E.Hart

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources