Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Rheoliad 28(1)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YNG NGHOFNODION ACHOSION PLANT SY'N CAEL EU LLETYA MEWN CARTREFI PLANT

1.  Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.

2.  Dyddiad geni a rhyw y plentyn.

3.  Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.

4.  Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

5.  Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.

6.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.

7.  Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.

8.  Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.

9.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.

10.  Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).

11.  Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.

12.  Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.

13.  Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(1) a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.

14.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.

15.  Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.

16.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.

17.  Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

18.  Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.

19.  Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.

20.  Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.

21.  Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.

22.  Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

23.  Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.

24.  Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.

25.  Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.

26.  Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.

27.  Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.

(1)

1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).