RHAN VRHEOLI CARTREFI
Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig32
1
Os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn nad yw'n rheoli'r cartref, rhaid iddo ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn—
a
yr unigolyn cyfrifol;
b
un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff ac sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu
c
cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli'r cartref ac sy'n addas i ymweld â'r cartref.
3
Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.
4
Rhaid i'r person sy'n ymweld—
a
cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r plant sy'n cael eu lletya yno, eu rhieni, eu perthnasau ac unrhyw un o'r personau sy'n gweithio yn y cartref y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y cartref;
b
archwilio safle'r cartref plant, ei lòg dyddiol o ddigwyddiadau a'i gofnod o unrhyw gwynion; ac
c
paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref yn cael ei redeg.
5
Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c)—
a
i reolwr cofrestredig y cartref plant a rhaid iddo gadw'r adroddiad yn y cartref; ac
b
yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.