Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plant

3.—(1At ddibenion y Ddeddf, mae unrhyw sefydliad sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol wedi'i eithrio o fod yn gartref plant—

(a)sefydliad yn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1);

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw sefydliad a ddefnyddir i letya plant at ddibenion unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn unig—

(i)gwyliau;

(ii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;

cyhyd ag na fydd unrhyw blentyn unigol yn cael ei letya yno am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), safle lle mae person yn darparu gofal dydd o fewn ystyr adran 79(A)(6) o Ddeddf 1989 oni fydd paragraff (3) yn gymwys;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2), sefydliad a ddefnyddir i letya plant 16 oed a throsodd at ddibenion un neu ragor o'r canlynol yn unig—

(i)i alluogi'r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth; neu

(ii)gwyliau;

(iii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;

(d)unrhyw hostel mechnïaeth a gymeradwywyd neu hostel prawf a gymeradwywyd(2);

(dd)unrhyw sefydliad a ddarperir ar gyfer tramgwyddwyr ifanc o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchar 1952(3).

(2Nid yw'r eithriadau ym mharagraff 1(b), (c) ac (ch) yn gymwys i unrhyw sefydliad y mae'r llety y mae yn ei ddarparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant o ddisgrifiad sy'n dod o fewn adran 3(2) o'r Ddeddf(4).

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i safleoedd a ddisgrifir ym mharagraff 1(c) os bydd, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau 24 awr pan fydd mwy na 15 awr o ofal dydd yn cael eu darparu mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (boed y plentyn hwnnw o dan wyth oed neu beidio), ac at ddibenion y paragraff hwn rhaid cymryd nad oes unrhyw ofal dydd yn cael ei ddarparu pan fydd plentyn yng ngofal ei riant, ei berthynas neu ei riant maeth.

(2)

Gweler adran 9(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000.

(3)

1952 p.52. Fe'i hamnewidiwyd gan adran 170(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 15 iddi, ac Atodlen 16 iddi; adrannau 5(2), 18(3) a 168(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33); adran 119 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37); ac adran 165(1) o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6), adran 5 o Atodlen 9 iddi. Mae is-adran 1(a) o Ddeddf 1952 i'w diddymu gan adrannau 59 a 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43) ac Atodlen 8 iddi ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(4)

Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu sydd wedi bod yn sâl; at bersonau y mae neu yr oedd ganddynt anhwylder meddwl; at bersonau sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol neu sydd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources