- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 5
1. Nodau ac amcanion y sefydliad.
2. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
3. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
4. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio yn y sefydliad.
5. Strwythur trefniadol y sefydliad.
6. Y mathau o driniaethau ac unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir at ddibenion y sefydliad, yr ystod o anghenion y bwriadwyd i'r gwasanaethau hynny eu bodloni a'r cyfleusterau sydd ar gael er budd y cleifion.
7. Y trefniadau a wnaed ar gyfer ymgynghori â chleifion ynghylch gweithrediad y sefydliad.
8. Y trefniadau a wnaed ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw gleifion mewnol a'u perthnasau, cyfeillion a chynrychiolwyr.
9. Y trefniadau ar gyfer delio â chwynion.
10. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas y cleifion.
Rheoliadau 9(3), 11(2) a 18(2)
1. Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai—
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1), neu os yw'r swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).
3. Tystlythyron ysgrifenedig oddi wrth y naill a'r llall o ddau gyflogwr diweddaraf y person.
4. Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
7. Os proffesiynolyn gofal iechyd yw'r person, manylion cofrestriad y person gyda'r corff (os oes un) sy'n gyfrifol am reoleiddio aelodau o'r proffesiwn gofal iechyd o dan sylw.
8. Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—
(a)y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(4) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(5); neu
(b)y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.
Rheoliad 20(1),(3)
1. Cofrestr o gleifion, yn cynnwys—
(a)enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dyddiad geni a statws priodasol pob claf;
(b)enw a chyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y claf neu unrhyw berson a awdurdodir gan y claf i weithredu ar ran y claf;
(c)enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y claf;
(ch)pan fo'r claf yn blentyn, enw a chyfeiriad yr ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu neu y bu iddo ei mynychu cyn iddo gael ei dderbyn i sefydliad;
(d)pan fo claf wedi cael ei dderbyn i warchodaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 enw, cyfeiriad a rhif ffôn y gwarcheidwad;
(dd)enw a chyfeiriad unrhyw gorff a drefnodd bod y claf yn cael ei dderbyn neu a drefnodd ei driniaeth;
(e)y dyddiad pan dderbyniwyd y claf i sefydliad neu pan dderbyniodd y driniaeth a ddarparwyd at ddibenion sefydliad am y tro cyntaf;
(f)natur y driniaeth a gafwyd gan y claf neu y cafodd y claf ei dderbyn i'w chael;
(ff)os yw'r claf wedi bod yn glaf mewnol mewn ysbyty annibynnol, y dyddiad pan gafodd y claf ei ryddhau;
(g)os yw'r claf wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty (gan gynnwys ysbyty gwasanaeth iechyd), dyddiad y trosglwyddiad, y rhesymau dros hynny ac enw'r ysbyty y trosglwyddwyd y claf iddo;
(ng)os bydd y claf yn marw tra mewn sefydliad neu yn ystod triniaeth a ddarperir at ddibenion sefydliad, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth.
2. Cofrestr o'r holl lawdriniaethau llawfeddygol a gyflawnwyd mewn sefydliad, gan gynnwys—
(a)enw'r claf y cyflawnwyd y llawdriniaeth arno;
(b)natur y weithdrefn lawdriniaethol a'r dyddiad pan gafodd ei chynnal;
(c)enw'r ymarferydd meddygol neu'r deintydd a gyflawnodd y llawdriniaeth;
(ch)enw'r anesthetydd a oedd yn bresennol;
(d)enw a llofnod y person a oedd yn gyfrifol am wirio fod pob nodwydd, swab a chyfarpar a ddefnyddiwyd yn y llawdriniaeth wedi'u cymryd yn ôl o'r claf;
(dd)manylion pob dyfais feddygol a fewnblannwyd yn y claf, heblaw pan fyddai hyn yn golygu datgelu gwybodaeth yn groes i ddarpariaethau adran 33(5) o Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990 (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth).
3. Cofrestr o bob achlysur pan ddefnyddiwyd techneg neu dechnoleg y mae rheoliad 41 yn gymwys iddynt, gan gynnwys—
(a)enw'r claf y defnyddiwyd y dechneg neu'r dechnoleg mewn perthynas ag ef;
(b)natur y dechneg neu'r dechnoleg o dan sylw a'r dyddiad y cafodd ei defnyddio;
(c)enw'r person a'i defnyddiodd; ac
(ch)pan nad yw'r person sy'n defnyddio'r dechneg neu'r dechnoleg yn ymarferydd meddygol neu'n ddeintydd, enw'r ymarferydd meddygol neu'r deintydd y defnyddiwyd y dechneg neu'r dechnoleg o dan ei gyfarwyddyd.
4. Cofrestr o bob cyfarpar mecanyddol neu dechnegol a ddefnyddiwyd at ddibenion y driniaeth a ddarperir gan y sefydliad, gan gynnwys—
(a)dyddiad prynu'r cyfarpar;
(b)dyddiad gosod y cyfarpar;
(c)manylion cynnal a chadw'r cyfarpar a'r dyddiadau pan wnaed gwaith cynnal a chadw.
5. Cofrestr o bob digwyddiad y mae'n rhaid hysbysu'r Cynulliad ohonynt yn unol â rheoliad 27.
6. Cofnod o'r sifftiau a drefnwyd ar gyfer bob cyflogai a chofnod o'r oriau a weithiodd bob person mewn gwirionedd.
7. Cofnod o bob person sy'n cael ei gyflogi yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y materion canlynol mewn perthynas ag unigolyn a ddisgrifir yn rheoliad 18(1)—
(a)enw a dyddiad geni y person;
(b)manylion swydd y person yn y sefydliad;
(c)dyddiadau cyflogaeth; ac
(ch)mewn perthynas â phroffesiynolyn gofal iechyd, manylion y cymwysterau proffesiynol perthnasol a chofrestriad y person â'r corff rheoleiddiol proffesiynol perthnasol.
Rheoliad 39(5)
1. Dyddiad ac amser geni plentyn bob claf, nifer y plant a anwyd i'r claf, rhyw pob plentyn a ph'un ai oedd yr enedigaeth yn enedigaeth fyw neu'n enedigaeth farw.
2. Enw a chymwysterau'r person a ddaeth â'r plentyn i'r byd.
3. Dyddiad ac amser unrhyw gamesgor a ddigwyddodd yn yr ysbyty.
4. Y dyddiad pan ymadawodd unrhyw blentyn a anwyd i glaf â'r ysbyty.
5. Os bu farw unrhyw blentyn a aned i glaf yn yr ysbyty, dyddiad ac amser y farwolaeth.
1. Manylion pwysau a chyflwr y plentyn adeg yr enedigaeth.
2. Datganiad dyddiol o iechyd y plentyn.
3. Os oes unrhyw archwiliad pediatrig yn cael ei gynnal sy'n cynnwys unrhyw un o'r dulliau canlynol—
(a)archwilio ar gyfer annormaledd cynhwynol gan gynnwys datgymaliad cynhwynol o'r glun;
(b)mesuriad o gylchedd pen y plentyn;
(c)mesuriad o hyd y plentyn;
(ch)sgrinio ar gyfer ffenylcetonwria;
manylion unrhyw archwiliad o'r fath a'r canlyniad.
Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio, neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.
Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.
O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249; O.S. 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: