- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
39.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)y rhoddir gwybod am unrhyw farwolaeth claf mewn ysbyty annibynnol yn ystod, neu o ganlyniad i, feichiogrwydd neu eni plant; a
(b)y rhoddir gwybod am unrhyw enedigaeth marw neu farwolaeth baban newydd-anedig mewn ysbyty annibynnol, i unrhyw berson sy'n cynnal ymchwiliad i farwolaethau o'r fath ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol(1).
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau ar gael o fewn yr ysbyty i ddarparu triniaeth ddigonol i gleifion yr oedd angen ymyrraeth lawfeddygol arnynt neu fod gefeiliau wedi cael eu defnyddio arnynt wrth eni eu plentyn a bod bydwraig a chanddi brofiad priodol yn gofalu am gleifion o'r fath.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol yn bodoli ar gyfer trosglwyddo claf a'i phlentyn newydd-anedig i gyfleusterau gofal critigol o fewn yr ysbyty neu rywle arall yn y cyffiniau agos, pan fo hynny'n angenrheidiol, a hynny ar unwaith.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol yn bodoli ar gyfer trin, ac, os oes angen, trosglwyddo i gyfleuster gofal arbenigol, glaf sâl iawn neu blentyn newydd-anedig.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod mamolaeth yn cael ei gynnal ar gyfer pob claf sy'n cael gwasanaethau obstetrig a phob plentyn a enir yn yr ysbyty, a'i fod—
(i)yn cynnwys y manylion a bennir yn rheoliad 20(1)(a) ac yn Rhannau I a II o Atodlen 4; a
(ii)yn cael ei gadw am gyfnod o nid llai na 25 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod diwethaf; a bydd gofynion rheoliad 20(2) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.
(6) Yn y rheoliad hwn—
mae i “genedigaeth farw” yr ystyr a roddir i “stillbirth” yn Neddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953(2);
ystyr “marwolaeth baban newydd-anedig” yw marwolaeth plentyn cyn pen diwedd y cyfnod o 28 diwrnod gan ddechrau â dyddiad geni'r plentyn.
Mae'r Ymchwiliad Cyfrinachol i Farwolaethau Mamau a'r Ymchwiliad Cyfrinachol i Enedigaethau Marw a Marwolaethau mewn Babandod yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac Adrannau eraill gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol.
1953 p.20. Gweler adran 41, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Genedigaethau Marw (Diffiniad) 1992 (p.29), adran 1(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: