- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “arweiniad y cleifion” (“patients' guide”) yw'r arweiniad sy'n cael ei lunio'n unol â rheoliad 6;
mae “breintiau ymarfer” (“practising privileges”), mewn perthynas ag ymarferydd meddygol, yn cyfeirio at roi hawl i berson nad yw'n cael ei gyflogi mewn ysbyty annibynnol i ymarfer yn yr ysbyty hwnnw;
ystyr “bydwraig” (“midwife”) yw bydwraig gofrestredig(1) sydd wedi hysbysu ei bwriad i ymarfer i'r awdurdod goruchwyliol lleol yn unol ag unrhyw reolau a wnaed o dan adran 14(1)(b) o Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1997(2));
ystyr “claf” (“patient”), mewn perthynas â sefydliad, yw person y mae triniaeth yn cael ei darparu iddo yn neu at ddibenion y sefydliad;
ystyr “cofrestr feddygol arbenigol” (“specialist medical register”) yw'r gofrestr o arbenigwyr a gedwir ac a gyhoeddir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol â'r Gorchymyn Cymwysterau Meddygol Arbenigol Ewropeaidd 1995(3);
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â sefydliad, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg y sefydliad;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 5;
ystyr “Deddf y GIG” (“the NHS Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(4);
ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion o dan Ddeddf Deintyddion 1984(5);
mae i “dyfais feddygol” (“medical device”) yr un ystyr â “medical device” yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 1994(6));
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â sefydliad, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu reolwr cofrestredig y sefydliad;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru fel aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(7) yn gymwys iddo, neu sy'n seicolegydd clinigol neu'n seicotherapydd plant a dylid dehongli “proffesiwn gofal iechyd” yn unol â hynny;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â sefydliad , yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y sefydliad ;
ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw ysbyty annibynnol, gan gynnwys ysbyty annibynnol lle darperir triniaeth neu wasanaeth nyrsio (neu'r ddau) ar gyfer personau sy'n agored i gael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(8)), neu glinig annibynnol;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â sefydliad—
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal lle mae'r sefydliad wedi'i leoli, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys gofal lliniarol, gwasanaethau nyrsio a gwasanaethau rhestredig, o fewn ystyr adran 2 o'r Ddeddf(9).
dylid dehongli “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 9;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol—
sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ystyr “general medical services” yn Rhan II o Ddeddf y GIG;
sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(10); neu
sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y GIG, ond nad ydynt yn cael eu darparu yn unol â'r Ddeddf honno;
ystyr “ymarferydd meddygol” (“medical practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig(11);
(2) Gall y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa sy'n cael ei rheoli ganddo fel y swyddfa briodol mewn perthynas â sefydliadau sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—
(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw, neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau a dylid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
Gweler Deddf Dehongli 1978, Atodlen 1. Mewnosodwyd diffiniad o “registered” mewn perthynas â bydwragedd gan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979 (p.36), Atodlen 7, paragraff 30.
O.S. 1995/3208, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2928, 1999/1373 a 3154.
Gweler adran 2(7).
Gweler Deddf Dehongli 1978 (p.30), Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Feddygol 1983 (p.54), adran 56(1), Atodlen 5, paragraff 18.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: