- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
17.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig, o ystyried natur y sefydliad a nifer ac anghenion y cleifion—
(a)sicrhau bod personau â chymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad bob amser, a bod y nifer ohonynt yn briodol ar gyfer iechyd a lles y cleifion;
(b)sicrhau na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad yn atal cleifion rhag cael y gofal di-dor sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad—
(a)yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiad priodol;
(b)yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'r person yn ei gyflawni; ac
(c)yn cael disgrifiad swydd sy'n amlinellu cyfrifoldebau'r person ei hun.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad ac unrhyw ymarferydd meddygol â breintiau ymarfer yn cael eu gwerthuso yn rheolaidd ac yn briodol a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd—
(a)ar bractis clinigol proffesiynolyn gofal iechyd; neu
(b)ar berfformiad aelod o staff nad yw'n broffesiynolyn gofal iechyd
y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n gweithio yn y sefydliad neu at ddiben y sefydliad, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y person cofrestredig ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn cael eu goruchwylio'n briodol tra bônt yn cyflawni eu swyddogaethau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: