- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu triniaeth ac unrhyw wasanaethau eraill i gleifion yn unol â'r datganiad o ddiben a rhaid iddo sicrhau bod y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir i bob claf—
(a)yn bodloni anghenion unigol y claf; a
(b)yn adlewyrchu tystiolaeth ymchwil a chanllawiau a gyhoeddwyd gan y cyrff proffesiynol ac arbenigol priodol ynghylch arferion da wrth drin y cyflwr y mae'r claf yn dioddef ohono; ac
(c)yn cael eu darparu (pan fo angen) drwy gyfrwng cyfarpar priodol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir yn y y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad—
(a)yn addas at y dibenion y mae i'w ddefnyddio ar eu cyfer; a
(b)yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol a'i fod mewn cyflwr da.
(3) Pan ddefnyddir dyfeisiau meddygol y gellir eu hailddefnyddio mewn sefydliad, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gweithdrefnau priodol yn cael eu gweithredu ar gyfer glanhau, diheintio, archwilio, pacio, sterileiddio, cludo a storio dyfeisiau o'r fath.
(4) Rhaid i'r gweithdrefnau a weithredir yn unol â pharagraff (3) fod yn rhai a fydd yn sicrhau bod dyfeisiau meddygol y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu trafod yn ddiogel ac yn cael eu diheintio'n effeithiol cyn y byddant yn cael eu hailddefnyddio.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau priodol ar gyfer archebu, cofnodi, trin, cadw'n ddiogel, rhoi a gwaredu yn ddiogel y cyffuriau a ddefnyddir yn neu at ddibenion y sefydliad, neu at ddibenion yr asiantaeth.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i leihau'r risg o amodau heintiedig a gwenwynig ac ymlediad heintiadau rhwng y cleifion a'r staff (gan gynnwys ymarferwyr meddygol â breintiau ymarfer).
(7) Os yw sefydliad yn darparu bwyd ar gyfer cleifion, rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau—
(a)bod digon ohono yn cael ei ddarparu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol;
(b)ei fod yn cael ei baratoi yn briodol, ei fod yn iachus ac yn faethlon; ac
(c)ei fod yn addas ar gyfer anghenion y cleifion;
a bod y fwydlen yn cael ei hamrywio bob hyn a hyn fel y bo'n addas.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: