- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
42. Mae rheoliadau 43 i 46 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol—
(a)y rhai y mae darparu triniaeth feddygol neu seiciatrig ar gyfer anhwylder meddyliol yn brif ddiben ganddynt; a
(b)y rhai lle darperir triniaeth neu wasanaeth nyrsio (neu'r ddau) ar gyfer personau sy'n agored i gael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1).
43.—(1) Rhaid i'r datganiad o bolisïau a gweithdrefnau sydd i'w baratoi a'i weithredu gan y person cofrestredig yn unol â rheoliad 8(1)(d) gynnwys polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â'r canlynol—
(a)asesu tueddiad claf tuag at drais a hunan-niwed;
(b)darparu gwybodaeth i gyflogeion ynghylch canlyniad asesiad o'r fath;
(c)asesiad o effaith cynllun safle'r ysbyty, a'i bolisïau a'i weithdrefnau, ar y risg y byddai claf yn niweidio ei hun neu berson arall; ac
(ch)yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu er mwyn galluogi cyflogeion i leihau'r risg y byddai claf yn niweidio ei hun neu berson arall.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, yn benodol, baratoi a gweithredu protocol hunanladdiad yn yr ysbyty sy'n gofyn am—
(a)archwiliad cynhwysfawr o gyflwr meddwl pob claf;
(b)cloriannu hanes anhwylder meddwl claf, gan gynnwys adnabod tueddiadau hunanladdol;
(c)cynnal asesiad o dueddiad y claf i hunanladdiad; ac
(ch)os oes angen, cymryd camau priodol i leihau'r risg y byddai claf yn lladd ei hun.
44. Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sy'n nodi—
(a) sut y bwriedir rheoli ymddygiad afreolaidd gan glaf;
(b)mesurau atal a ganiateir a'r amgylchiadau pan y gellir eu defnyddio;
(c)gofynion i gyflogeion adrodd ar enghreifftiau difrifol o drais neu hunan-niwed, gan gynnwys canllawiau ynghylch sut y dylid dosbarthu'r digwyddiadau hyn; ac
(ch)y weithdrefn ar gyfer adolygu digwyddiadau o'r fath a phenderfynu ar y camau sydd i'w dilyn wedi hynny.
45. Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig yn yr ysbyty mewn perthynas â chleifion yn derbyn ymwelwyr.
46. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidwadaeth a Chydsynio â Thriniaeth) 1983(2), ac sy'n ymwneud â chadw claf o dan orchymyn mewn ysbyty annibynnol neu ei drin, yn cael eu cadw am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r person y maent yn ymwneud ag ef yn peidio â bod yn glaf yn yr ysbyty.
O.S. 1983/893, fel y'i diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: